Print

Print


Mi gynhyrchodd Lowri Williams a Delyth Prys lyfryn "Anabledd ac iaith: 
Canllawiau defnyddio terminoleg anabledd" (2001) i Fwrdd yr Iaith a'r 
Comisiwn Hawliau Anabledd yng Nghymru.  Yn anffodus, nid yw hwnnw'n 
cynnwys "vulnerable" (ac efallai bod ffasiwn wedi newid beth sy'n 
dderbyniol ymhlith rhai o'r termau eraill erbyn hyn).  Wn i ddim a 
hoffai Delyth roi unrhyw sylw.

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru wedi disodli'r 
Comisiwm Hawliau Anabledd, O chwilio ei safle, gwelaf 13 achos o "agored 
i niwed" a naw achos o "bregus/fregus", ond dim un o "archolladwy".

Pe hoffai rhywun edrych ar yr achosion i ystyried cyd-destun bob un, 
defnyddiwch Google a rhoi'r gair 'rydych chi'n chwilio amdano, gyda 
site:http://www.equalityhumanrights.com wedyn (peidiwch a gadael bwlch 
ar ol "site" na'r colon.

Ann


On 07/11/2013 11:46, Saunders, Tim wrote:
>
> Ti’n gywir, wrth gwrs. Byddai rhyw fath o ganllaw yn gaffaeliad amhuethun.
>
> Yn iach,
>
> Tim
>
> ------------------------------------------------------------------------
>
> *From:*Discussion of Welsh language technical terminology and 
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] *On Behalf Of 
> *Sian Jones
> *Sent:* 07 November 2013 11:31
> *To:* [log in to unmask]
> *Subject:* Re: Vulnerable
>
> Mae'n dibynnu ar y cyd-destun ddeudwn i - mae pobl yn gallu bod yn 
> 'agored i niwed' neu'n 'fregus'  - ac mae sefyllfaoedd yn gallu bod yn 
> 'vulnerable' (e.e. financially vulnerable, vunerable zones, vulnerable 
> use) felly mae'n debyg y byddai angen defnyddio term arall yn yr 
> achosion yma - 'yn peryglu' efallai, neu 'ddiamddiffyn'....efallai nad 
> oes modd bathu un term sy'n briodol ymhob sefyllfa.
>
> Sian
>
> ------------------------------------------------------------------------
>
> Date: Thu, 7 Nov 2013 11:22:17 +0000
> From: [log in to unmask]
> Subject: Re: Vulnerable
> To: [log in to unmask]
>
> Yn anffodus, nid oes unrhyw gytgord o gwbl i’w weld ar hyn. Ceir 
> hyglwyf, agored i niwed, sy’n agored i niwed, bregus, hawdd eu 
> niweidio, sy’n hawdd ei niweidio, a diamddiffyn yn trwcio lle â’i 
> gilydd yn dweddol rwydd.
>
> Tim
>
> ------------------------------------------------------------------------
>
> *From:*Discussion of Welsh language technical terminology and 
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] *On Behalf Of 
> *Gorwel Roberts
> *Sent:* 07 November 2013 11:17
> *To:* [log in to unmask]
> *Subject:* Vulnerable
>
> Helo,
> Beth yw’r consensws ynglŷn â ‘vulnerable’?
> Mae Term Cymru’n cynnig ‘agored i niwed’ ond mae hynny weithiau’n codi 
> gwrychyn pobl sy’n ffafrio ‘bregus’ ond wrth gwrs mae ‘na broblemau 
> efo’r gair hwnnw hefyd.
> Oes gan rywun gynnig hwylus?
> gorwel
>
>
> -- 
>
> Ymwadiad:
> Er y cymerir pob gofal posib i sicrhau cywirdeb unrhyw wybodaeth a 
> chyngor a roddir yn yr ohebiaeth hon, ni dderbynnir atebolrwydd am 
> unrhyw golledion a all godi o unrhyw gamgymeriadau sy'n gynwysedig ac 
> fe'ch atgoffir o'r angen i chi ofyn am gyngor proffesiynol eich hun.
> Bwriedir y neges ebost hon, ac unrhyw atodiadau iddi, at sylw'r 
> person(au) y'i danfonwyd atynt yn unig. Os nad chi yw'r derbynnydd y 
> cyfeiriwyd y neges hon ato ef neu hi, neu'r person sydd gyfrifol am 
> drosglwyddo'r neges hon iddo ef neu hi, mi ddylech hysbysu'r anfonwr 
> ar eich union. Oni bai mai chi yw'r person neu gynrychiolydd y person 
> y cyfeiriwyd y neges hon at ef neu hi nid ydych wedi eich awdurdodi i, 
> ac ni ddylech chi, ddarllen, copio, dosbarthu, defnyddio na chadw'r 
> neges hon nac unrhyw gyfran ohoni.
> O dan y Ddeddf Amddiffyn Data 1998 a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 
> gellir datgelu cynnwys y negest ebost hon.
> Disclaimer:
> While reasonable care is taken to ensure the correctness of any 
> information and advice given in this correspondence no liability is 
> accepted for losses arising from any errors contained in it and you 
> are reminded of the need to obtain your own professional advice.
> The information in this email and any attachments is intended solely 
> for the attention and use of the named addressee(s). If you are not 
> the intended recipient, or person responsible for delivering this 
> information to the intended recipient, please notify the sender 
> immediately. Unless you are the intended recipient or his/her 
> representative you are not authorised to, and must not, read, copy, 
> distribute, use or retain this message or any part of it.
> Under the Data Protection Act 1998 and the Freedom of Information Act 
> 2000 the contents of this email may be disclosed.
>