Diddorol,
Sian. Mae'n newydd i
Bruce. Tybed a ydy'r enw
yn The Welsh Vocabulary of
the Bangor District, Ffynes-Clinton ('rwy'n meddwl bod rhagor
o'i waith yn
Llyfrgell y Coleg yma, heb ei gyhoeddi.
Mae tua deng mlynedd ar hugain ers i grwp bach ohonom (mewn
tafarn) gyfansoddi
llythyr at "Y Faner" yn egluro tarddiad yr enw "mince pies".
Fel y gwyddoch, mae'n siwr, briwgig go iawn oedd yn y pasteiod
yn y dechrau. Fe
wyddoch hefyd o hoffter yr hen Gymry o gadw geifr, a chig gafr a
ddefnyddiwyd.
Oherwydd bod y cig wedi'i ladd a'i gadw ers tipyn erbyn y
'Dolig, a heb fod yn
ffres iawn, bu rhaid ychwanegu rhywbeth i guddio'r blas. Dyna darddiad myn sbeis.
Yn ffodus, efallai, dewisodd golygydd Y Faner anwybyddu'r
llythyr.
Cofion,
Ann
[log in to unmask]" type="cite">Oes rhywun wedi clywed "piogan" am "mince pie"? Rhywun o Fangor oedd yn ei ddweud slawer dydd mae'n debyg. Diolch Siân