Print

Print


Mae'n dibynnu ar yr hyn 'dych chi'n ei olygu wrth "gallu". Ydych chi'n 
gofyn am rwydd hynt i ddefnyddio'r naill genedl neu'r llall fel y mynnwch?

Fel 'rwy'n deall pethau (gan Bruce), mae eb.g. yn GPC yn golygu bod gair 
yn fenywaidd fel arfer, ond daethpwyd o hyd i enghreifftiau o'i drin fel 
enw gwrywaidd (ac wrth gwrs i'r gwrthwyneb yn achos eg.b.).Nid oes fel 
arfer unrhyw awgrym ynghylch nifer yr enghreifftiau, na pha mor safonol 
oedd y testunau lle y'u cafwyd.

*Disgrifio* iaith yw prif dasg geiriaduron -- hyd yn oed GyrA, sy'n 
ceisio rhoi awgrym lle nad oes dim byd ar gael -- yn wahanol i rai 
rhestrau termau, sy'n pennu'r term i'w ddefnyddio.Yr oedd GPC yn 
disgrifio'r sefyllfa yn ol y dogfennau a chwilwyd.Nid yw'n awgrymu 
"Defnyddiwch y naill genedl neu'r llall ar bob cyfrif, gan fod y dewis 
ar gael", yn fwy nag y mae GyrA, trwy restru gair sathredig gyda "F." yn 
awgrymu y dylech ei ddefnyddio ym mhob cyd-destun.

Cofiwch fod hyn yn wahanol i arfer Cysgair.Ni fydd y rhaglen honno ond 
yn awgrymu bod enghreifftiau o'r ddau ddefnydd i'w cael (cymeraf y 
defnyddiwyd GPC fel sail, ond ni wn i ddim).Nid yw trefn y llythrennau'n 
golygu dim byd.Dyna pam y bydd Cysill weithiau'n methu cyfuniad sy'n 
amlwg yn "anghywir" -- bydd yn rhoi'r un faint o bwys ar yr ychydig 
enghreifftiau ag ar arfer y mwyafrif o awduron trwy'r oesoedd.

Wedi edrych ar y cofnod ar gyfer "safon" yn Cysgair, 'rwy'n amau mai o'r 
gymysgfa honno mae eich cwestiwn wedi codi (er bod Cysill yn medru 
cywiro "y safon hwn" i "y safon hon").Onid e, 'rwy'n dal i ofyn, pam y 
cwestiwn yn y lle cyntaf?

Os byddaf yn codi rhyw amheuaeth ynghylch cenedl gyda Bruce, bydd o'n 
gofyn "Wyt ti wedi edrych yn GPC?".Hwn, iddo fo, yw'r awdurdod. Pan 
oeddwn i'n gweithio yn Swyddfa Prif Weithredwr Ceredigion, hyd yn oed 
cyn bod cyfieithydd gan y cyngor, yr oedd copi o GPC yno, a derbynnid y 
rhifynnau ychwanegol.Pan adewais y gwaith, defnyddiais yr arian a 
gasglwyd imi i brynu'r ddwy gyfrol gyntaf a thanysgrifiais i'r 
gweddill.Cofiwch, dim ond dwy gyfrol ac ychydig rifynnau ychwanegol oedd 
ar gael bryd hynny, 'doedd GyrA ddim wedi'i gyhoeddi, a dim 
Welsh-Termau-Cymraeg!Pe bai arnoch eisiau cenedl gair anarferol o "M" 
ymlaen, fe allech chi fod mewn penbleth. Ond 'roedd y "Geiriadur Mawr" 
ar gael, a "Spurrell" (nid yr un bach modern y mae dysgwyr yn ei 
ddefnyddio - mae gan Bruce feddwl uchel iawn o hen argraffiadau 
Spurrell).Mae'r ddau ohonynt yn cynnwys "safon", ac mae'n fenywaidd.

Cefais sioc, rai blynyddoedd wedyn, pan es i weithio ran amser dros dro 
mewn swyddfa gyfieithu cyngor sir a chael nad oedd gan y swyddfa gopi o 
GPC (mae pethau wedi newid erbyn hyn). Mae'n dal yn ddiogelwch imi sut y 
gall unrhyw gyfieithydd sy'n medru ei fforddio ddioddef bod heb GPC. Os 
nad oes un yn y swyddfa, dyna ffordd dda o wario unrhyw arian diwedd y 
flwyddyn.

Gobeithio nad ydym yn meddwl mynd yn ol at yr hen ddyddiau o orfod holi 
llond llaw o bobl ddiwylliedig ynghylch eu defnydd o air, a dilyn y 
consensws er mwyn penderfynu ei genedl, neu mi fydd gwaith sawl 
geiriadurwr dros y blynyddoedd yn ofer, ac awn yn ol i'r oesoedd tywyll.

Anfonaf gopi o hyn at Delyth Prys ac Andrew Hawke, rhag ofn na fyddant 
yn sylwi ar y drafodaeth.

Ann

On 18/11/2013 08:41, Gorwel Roberts wrote:
>
> Felly, mae'n gallu bod yn wrywaidd?
>
> *From:*Discussion of Welsh language technical terminology and 
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] *Ar ran/On 
> Behalf Of *Ann Corket
> *Sent:* 15 November 2013 17:33
> *To:* [log in to unmask]
> *Subject:* Re: Tipyn o Safon
>
> Fel ymchwil cymdeithasol?  Mae yn Geiriadur yr Academi a Geiriadur 
> Prifysgol Cymru (sy'n rhestru'r gair fel eb.g.).
> Ann
>
> On 15/11/2013 17:05, Geraint Lovgreen wrote:
>
>     Am ei fod eisiau gwybod?  ;-)
>
>         ----- Original Message -----
>
>         *From:*Ann Corket <mailto:[log in to unmask]>
>
>         *To:*[log in to unmask]
>         <mailto:[log in to unmask]>
>
>         *Sent:*Friday, November 15, 2013 4:37 PM
>
>         *Subject:*Re: Tipyn o Safon
>
>         Pam 'dych chi'n gofyn?
>         Ann
>
>         On 15/11/2013 15:56, Gorwel Roberts wrote:
>
>             Ymmm -- beth yw cenedl y gair 'safon' i chi?
>
>             diolch
>
>             Gorwel
>
>
>             -- 
>
>             Ymwadiad:
>
>             Er y cymerir pob gofal posib i sicrhau cywirdeb unrhyw
>             wybodaeth a chyngor a roddir yn yr ohebiaeth hon, ni
>             dderbynnir atebolrwydd am unrhyw golledion a all godi o
>             unrhyw gamgymeriadau sy'n gynwysedig ac fe'ch atgoffir o'r
>             angen i chi ofyn am gyngor proffesiynol eich hun.
>
>             Bwriedir y neges ebost hon, ac unrhyw atodiadau iddi, at
>             sylw'r person(au) y'i danfonwyd atynt yn unig. Os nad chi
>             yw'r derbynnydd y cyfeiriwyd y neges hon ato ef neu hi,
>             neu'r person sydd gyfrifol am drosglwyddo'r neges hon iddo
>             ef neu hi, mi ddylech hysbysu'r anfonwr ar eich union. Oni
>             bai mai chi yw'r person neu gynrychiolydd y person y
>             cyfeiriwyd y neges hon at ef neu hi nid ydych wedi eich
>             awdurdodi i, ac ni ddylech chi, ddarllen, copio,
>             dosbarthu, defnyddio na chadw'r neges hon nac unrhyw
>             gyfran ohoni.
>
>             O dan y Ddeddf Amddiffyn Data 1998 a Deddf Rhyddid
>             Gwybodaeth 2000 gellir datgelu cynnwys y negest ebost hon.
>
>             Disclaimer:
>
>             While reasonable care is taken to ensure the correctness
>             of any information and advice given in this correspondence
>             no liability is accepted for losses arising from any
>             errors contained in it and you are reminded of the need to
>             obtain your own professional advice.
>
>             The information in this email and any attachments is
>             intended solely for the attention and use of the named
>             addressee(s). If you are not the intended recipient, or
>             person responsible for delivering this information to the
>             intended recipient, please notify the sender immediately.
>             Unless you are the intended recipient or his/her
>             representative you are not authorised to, and must not,
>             read, copy, distribute, use or retain this message or any
>             part of it.
>
>             Under the Data Protection Act 1998 and the Freedom of
>             Information Act 2000 the contents of this email may be
>             disclosed.
>
>
>
>         No virus found in this message.
>         Checked by AVG - www.avg.com <http://www.avg.com>
>         Version: 2012.0.2242 / Virus Database: 3222/6338 - Release
>         Date: 11/15/13
>
>
> -- 
>
> Ymwadiad:
>
> Er y cymerir pob gofal posib i sicrhau cywirdeb unrhyw wybodaeth a 
> chyngor a roddir yn yr ohebiaeth hon, ni dderbynnir atebolrwydd am 
> unrhyw golledion a all godi o unrhyw gamgymeriadau sy'n gynwysedig ac 
> fe'ch atgoffir o'r angen i chi ofyn am gyngor proffesiynol eich hun.
>
> Bwriedir y neges ebost hon, ac unrhyw atodiadau iddi, at sylw'r 
> person(au) y'i danfonwyd atynt yn unig. Os nad chi yw'r derbynnydd y 
> cyfeiriwyd y neges hon ato ef neu hi, neu'r person sydd gyfrifol am 
> drosglwyddo'r neges hon iddo ef neu hi, mi ddylech hysbysu'r anfonwr 
> ar eich union. Oni bai mai chi yw'r person neu gynrychiolydd y person 
> y cyfeiriwyd y neges hon at ef neu hi nid ydych wedi eich awdurdodi i, 
> ac ni ddylech chi, ddarllen, copio, dosbarthu, defnyddio na chadw'r 
> neges hon nac unrhyw gyfran ohoni.
>
> O dan y Ddeddf Amddiffyn Data 1998 a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 
> gellir datgelu cynnwys y negest ebost hon.
>
> Disclaimer:
>
> While reasonable care is taken to ensure the correctness of any 
> information and advice given in this correspondence no liability is 
> accepted for losses arising from any errors contained in it and you 
> are reminded of the need to obtain your own professional advice.
>
> The information in this email and any attachments is intended solely 
> for the attention and use of the named addressee(s). If you are not 
> the intended recipient, or person responsible for delivering this 
> information to the intended recipient, please notify the sender 
> immediately. Unless you are the intended recipient or his/her 
> representative you are not authorised to, and must not, read, copy, 
> distribute, use or retain this message or any part of it.
>
> Under the Data Protection Act 1998 and the Freedom of Information Act 
> 2000 the contents of this email may be disclosed.
>