Cwrs hyfforddiant CyMAL Datblygu'r Gynulleidfa: Deall a thyfu eich cynulleidfa Amgueddfa Wrecsam 06-Mawrth-2014 Amgueddfa Abertawe 11-Mawrth-2014 Mae'r cwrs hwn yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru ac mae'n agored i staff a gwirfoddolwyr sy'n gweithio mewn amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd yng Nghymru. Mae'n addas ar gyfer pawb sy'n gyfrifol am ennyn diddordeb cynulleidfaoedd. Os ydych chi'n gweithio yn y byd addysg, yn gwneud gwaith allanol neu'n marchnata neu os yw datblygu cynulleidfaoedd yn rhan o'ch rôl ond eich bod heb lawer o amser nac arian ar ei gyfer yna dyma'r cwrs i chi. Nodau Erbyn diwedd y cwrs bydd yr aelodau * Yn deall y rhwystrau a'r cymhellion ymhlith cynulleidfaoedd posibl ac yn defnyddio'r wybodaeth hon o fewn eu gwaith eu hunain * Yn defnyddio eu data eu hunain a data aelodau eraill o'r gynulleidfa i ddeall mwy am gynulleidfaoedd * Yn pennu ac yn dod o hyd i gynulleidfaoedd ar gyfer eu gwaith * Yn creu cynllun datblygu cynulleidfaoedd Dulliau Hyfforddi Gweithdy rhyngweithiol sy'n cynnwys astudiaethau achos, ymarferion ymarferol ac adnoddau at eu defnydd eu hunain. Paratoi Gofynnir i'r aelodau feddwl ymlaen llaw am yr hyn maent yn ei wybod am eu cynulleidfaoedd presennol. Hyfforddwyr: Sarah Boiling yw Cyfarwyddwr Rhaglenni yr Audience Agency. Mae'n gweithio gyda nifer o sefydliadau celfyddydol i'w helpu i dyfu a chyfoethogi eu perthynas â chynulleidfaoedd ac mae wedi rhoi cyflwyniadau gerbron Cynhadledd y Gymdeithas Amgueddfeydd, y Sioe Amgueddfeydd a Threftadaeth a Chynhadledd AMA. Nick Beasley yw Prif Weithredwr Cynulleidfaoedd Cymru. Mae Nick yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau ymgynghorol ym maes marchnata, prosiectau datblygu cynulleidfaoedd a hyfforddiant ar gyfer y sectorau diwylliannol yng Nghymru gan gynnwys y rhaglenni hyfforddi Hanfodion Marchnata'r Celfyddydau sydd wedi derbyn llawer o ganmoliaeth. Cofrestru Cewch archebu lle ar y cwrs hwn drwy ddefnyddio eich tudalen gofrestru EventBrite Amgueddfa Wrecsam: http://www.eventbrite.com/e/audience-development-06-march-2014-datblygur-gynulleidfa-06-mawrth-2014-registration-9420423741?aff=mail Amgueddfa Abertawe: http://www.eventbrite.com/e/audience-development-11-march-2014-datblygur-gynulleidfa-11-mawrth-2014-registration-9436351381?aff=mail Bydd pob gohebiaeth sy'n gysylltiedig â'r cwrs hwn yn cael ei anfon allan yn electronig unwaith y byddwch wedi cofrestru; felly byddwn angen cyfeiriad e-bost unigol ar gyfer pob cynadleddwr er mwyn cadw eich lle. Mae cyfyngu ar y lleoedd felly archebwch yn gynnar. Os bydd eich amgylchiadau'n newid wedi hyn ac na allwch fod yn bresennol rhowch wybod i Lauren Baldwin ar unwaith ar [log in to unmask] neu 0300 062 2251 fel ei bod yn bosibl rhoi eich lle i rywun arall ar y rhestr aros. Lauren Baldwin Cynorthwy-ydd Casgliadau, Safonau a Datblygu'r Gweithlu Collections, Standards and Workforce Development Assistant CyMAL : Amgueddfeydd Archifau a Llyfrgelloedd Cymru / CyMAL : Museums Archives and Libraries Wales Llywodraeth Cymru / Welsh Government Rhoddfa Padarn, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UR 0300 062 2251 [log in to unmask] CyMAL contact number : 0300 062 2112 Dylai unrhyw ddatganiadau neu sylwadau a wneir uchod gael eu hystyried yn rhai personol ac nid yn rhai gan Lywodraeth Cymru, unrhyw ran ohoni neu unrhyw gorff sy'n gysylltiedig â hi. Any of the statements or comments made above should be regarded as personal and not those of the Welsh Government, any constituent part or connected body.