Gan fod mwy nag un "llygoden" yn defnyddio'r llwybrau slei yma, "llwybr llygod" i mi. ----- Original Message ----- From: Sioned Graham-Cameron To: [log in to unmask] Sent: Thursday, October 24, 2013 2:57 PM Subject: Re: ATB/RE: rat run Rhaid i mi ddweud bod "llwybr llygod/llygoden" yn apelio'n fawr, ac os oes yna un yn bodoli eisoes ... Sioned On 24 Oct 2013, at 14:54, Beryl H Griffiths wrote: I’r rhai ohonoch sy’n gyfarwydd â Llandudoch neu hyd yn oed gân Ail Symudiad am y lle, mae yno ‘lwybr llygoden’ – a dyna yn union ydi hwnnw, llwybr (digon anodd) sy’n osgoi dilyn y ffordd hwy, fwy graddol, i fyny’r rhiw. Be am ‘lwybr llygoden’ felly? Beryl From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Cyfieithydd Achlysurol Sent: 24 October 2013 14:22 To: [log in to unmask] Subject: Re: rat run Bach yn amlwg a llythrennol, efallai, ond os yw tarw'n mynnu mynd yn syth, doed a ddêl, mae llygoden yn cymryd y llwybr hawsaf. Beth am 'llwybr llygod' felly? On Oct 24, 2013 2:06 PM, "Ann Corket" <[log in to unmask]> wrote: neu jyst "llwybr osgoi"? Ann On 24/10/2013 11:47, Huw Tegid wrote: Mae shun-pike / shunpiking yn enw ar arfer tebyg: http://en.wikipedia.org/wiki/Shunpiking a 'lôn osgói' ydi'r cynnig yng Ngeiriadur yr Academi am hwnnw. "Bypass" sy'n dod i feddwl rhywun wrth weld yr ymadrodd hwnnw, ond mae ystyr ychydig yn fwy negyddol i'r 'rat run' yng ngolwg rhai pobl, gan nad ydyn nhw'n lonydd osgói swyddogol. Beth am llwybr slei, efallai? Cofion gorau, Huw -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sioned Graham-Cameron Sent: 24 October 2013 11:23 To: [log in to unmask] Subject: rat run Bore da Trafodwyd hyn yn 2003, a'r ddau gynnig oedd 'Llwybr Tarw" a "Llwybr Dianc". Dydw i ddim yn siwr os ydyn' nhw'n cyfleu yn union yr un peth? Oes gan unrhyw un gynnig arall? Cais cynllunio ydi'r cyd-destun, fel yn y cwestiwn gwreiddiol. Diolch Sioned ----- No virus found in this message. Checked by AVG - www.avg.com Version: 2014.0.4158 / Virus Database: 3614/6776 - Release Date: 10/23/13 No virus found in this message. Checked by AVG - www.avg.com Version: 2012.0.2242 / Virus Database: 3222/6276 - Release Date: 10/23/13