Print

Print


Dw i’n cytuno mai dyna fyddwn i’n ddweud yn naturiol, Dafydd, - ‘Mi a’i ar y lôn gefn’ ond dydy pob lôn gefn ddim o reidrwydd yn ‘rat run’ nac ydi?

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Dafydd Timothy
Sent: 24 Hydref 2013 13:11
To: [log in to unmask]
Subject: Re: rat run

 

'lôn gefn'
'lôn gefn gyfleus'
'lôn amgen'

?


On 24/10/2013 12:33, Sian Roberts wrote:

Falle "ffordd osgoi traffig"?

 

Siân

 

 

On 2013 Hyd 24, at 11:59 AM, Sioned Graham-Cameron wrote:



Ia, ac mewn gwirionedd, dyna ydi 'rat run' hefyd ynde, neu o leia llwybr haws i osgoi traffig ac yn y blaen.

 

Falla bod 'lôn osgoi' yn iawn ... 

 

Sioned

 

 

On 24 Oct 2013, at 11:54, gareth tucker wrote:



'Short cut' yw ystyr 'llwybr tarw', dwi'n meddwl.

Gareth

 

 

On Thursday, 24 October 2013, 11:51, Sioned Graham-Cameron <[log in to unmask]> wrote:

Ia - dwi'n meddwl bod angen cyfleu'r ystyr negyddol, Huw. Mae 'lôn osgoi' yn swnio'n rhy barchus rhywsut.

Diolch - dwi'n eitha hoffi llwybr slei.

A diolch am y cyfeiriad at 'shunpiking' - erioed wedi clywed y gair o'r blaen!

Sioned


On 24 Oct 2013, at 11:47, Huw Tegid wrote:

> Mae shun-pike / shunpiking yn enw ar arfer tebyg:
>
> http://en.wikipedia.org/wiki/Shunpiking
>
> a 'lôn osgói' ydi'r cynnig yng Ngeiriadur yr Academi am hwnnw.  "Bypass" sy'n dod i feddwl rhywun wrth weld yr ymadrodd hwnnw, ond mae ystyr ychydig yn fwy negyddol i'r 'rat run' yng ngolwg rhai pobl, gan nad ydyn nhw'n lonydd osgói swyddogol. 
>
> Beth am llwybr slei, efallai?
>
> Cofion gorau,

> Huw
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sioned Graham-Cameron
> Sent: 24 October 2013 11:23
> To: [log in to unmask]
> Subject: rat run
>
> Bore da
>
> Trafodwyd hyn yn 2003, a'r ddau gynnig oedd 'Llwybr Tarw" a "Llwybr Dianc". Dydw i ddim yn siwr os ydyn' nhw'n cyfleu yn union yr un peth?
>
> Oes gan unrhyw un gynnig arall? Cais cynllunio ydi'r cyd-destun, fel yn y cwestiwn gwreiddiol.
>
> Diolch
> Sioned
>
> -----
> No virus found in this message.
> Checked by AVG - www.avg.com
> Version: 2014.0.4158 / Virus Database: 3614/6776 - Release Date: 10/23/13