Recte ‘Fel un nad yw’n credu…’
Mea
culpa.
Tim
From:
Sent: 21 October 2013 09:59
To:
[log in to unmask]
Subject: Re: Yr arferiad o
gyfuno'r unigol a'r lluosog mewn brawddegau Saesneg
Fel un nad yw’n credo mewn cywirdeb
gwleidyddol, mentraf anghytuno â Syr Ifor, oedd yn aildwymo hen jôc gyfreithiol
ynghylch Deddf a basiodd San Steffan yn Oes Fictoria. Mae’r ffurfiau they, their,
them fel rhagenw trydydd person unigol digenedl (nid neodr, sylwer) yn gywir mewn Saesneg
safonol ers cyn y Ddeddf Uno.
Yn iach,
Tim
From:
Sent: 16 October 2013 12:47
To:
[log in to unmask]
Subject: Re: Yr arferiad o
gyfuno'r unigol a'r lluosog mewn brawddegau Saesneg
Cytuno'n llwyr; mae
hyn wedi bod yn diwn gron gen i ers fy nyddiau ysgol (Ysgol Ramadeg
bondibrybwyll), lle'n driliwyd ni'n gyson i anwybyddu ffad a ffasiwn darlledwyr
radio a theledu, yn ogystal â nifer helaeth o bapurau dyddiol, a oedd (ac sy'n
gynyddol felly hyd heddiw) yn gyfrifol am dresmasu byth a beunydd ar y mater
hwn. Yn wir, fe'n hanogid ni y pryd hynny y byddai'r ffurf
gwrywaidd yn ar ei ben ei hun yn gwbl dderbyniol yn y rhan fwyaf o achlysuron,
gan fod gramadeg y Saesneg a'r Gymraeg) yn caniatáu i'r ffurf gwrywaidd ymgynnwys
y ffurf benywaidd, - i'w roi yng ngeiriau diarhebol ac anfarwol Yr Athro Syr
Ifor Williams gynt: '... within the
inherited and well-established rules of both English and Welsh grammar ...
the masculine form embraces the female form.'
Ond yn hytrach na 'mod
i'n peryglu tramgwyddo'r bobl hynny sy'n disgwyl i gyfieithwyr hefyd fod yn
'wleidyddiol gywir' (!!) ym mhob gair ddaw allan o'u genau, pan fydda i'n
cyfieithu ar-y-pryd ar lafar (o'r Gymraeg i'r Saesneg gan amlaf wrth gwrs) byddaf
wastad yn arfer y patrwm ' ... his
(oblique) her ... ' yn hytrach nag ildio i'r drefn boblogaidd
(anghywir) o arddel y '... their ...'
(lluosog), er gwaethaf bod hynny angen ryw hanner eiliad yn ychwanegol i'w
ynganu.
Eurwyn.
From:
Sent: 16 October 2013 09:49
To:
[log in to unmask]
Subject: Yr arferiad o gyfuno'r
unigol a'r lluosog mewn brawddegau Saesneg
Tybed a fydde rhywun o blith aelodau’r Cylch yn barod i roi ei
farn ar yr uchod? Cyfeirio rydwi at yr arfer cyffredin mewn dogfennau Saesneg o
gychwyn gydag un unigolyn ee ymgeisydd ond wedyn yng ngweddill y frawddeg
defnyddio ‘their’ ac yn y blaen er mwyn osgoi defnyddio
‘his/her’. I mi mae’n taro’n ddigon rhyfedd yn Saesneg
ond mae’n hollol annerbyniol yn Gymraeg. Ydech chi’n cytuno?
Beryl
This transmission is intended for the named addressee(s)
only and may contain sensitive or protectively marked material up to RESTRICTED
and should be handled accordingly. Unless you are the named addressee (or
authorised to receive it for the addressee) you may not copy or use it, or
disclose it to anyone else. If you have received this transmission in error
please notify the sender immediately. All traffic including GCSx may be subject
to recording and/or monitoring in accordance with relevant legislation
For the full disclaimer please access http://www.rctcbc.gov.uk/disclaimer
Mae'r neges ar gyfer y person(au) a enwyd yn unig a gall
gynnwys deunydd sensitif neu ddeunydd sy wedi'i farcio hyd at 'CYFYNGEDIG' a
dylid ei thrin yn unol a hynny. Os nad chi yw'r person a enwyd (neu os nad
oes gyda chi'r awdurdod i'w derbyn ar ran y person a enwyd) chewch chi ddim ei
chopio neu'i defnyddio, neu'i datgelu i berson arall. Os ydych wedi derbyn y
neges ar gam a wnewch roi gwybod i'r sawl sy wedi anfon y neges ar unwaith. Mae
modd cofnodi a/neu fonitro holl negeseuon GCSX yn unol a'r ddeddfwriaeth
berthnasol.
I weld yr ymwadiad llawn ewch i http://www.rctcbc.gov.uk/ymwadiad
This transmission is intended for the named addressee(s) only and may contain sensitive or protectively marked material up to RESTRICTED and should be handled accordingly. Unless you are the named addressee (or authorised to receive it for the addressee) you may not copy or use it, or disclose it to anyone else. If you have received this transmission in error please notify the sender immediately. All traffic including GCSx may be subject to recording and/or monitoring in accordance with relevant legislation
For the full disclaimer please access http://www.rctcbc.gov.uk/disclaimer
Mae'r neges ar gyfer y person(au) a enwyd yn unig a gall gynnwys deunydd sensitif neu ddeunydd sy wedi'i farcio hyd at 'CYFYNGEDIG' a dylid ei thrin yn unol a hynny. Os nad chi yw'r person a enwyd (neu os nad oes gyda chi'r awdurdod i'w derbyn ar ran y person a enwyd) chewch chi ddim ei chopio neu'i defnyddio, neu'i datgelu i berson arall. Os ydych wedi derbyn y neges ar gam a wnewch roi gwybod i'r sawl sy wedi anfon y neges ar unwaith. Mae modd cofnodi a/neu fonitro holl negeseuon GCSX yn unol a'r ddeddfwriaeth berthnasol.
I weld yr ymwadiad llawn ewch i http://www.rctcbc.gov.uk/ymwadiad