Dyna gwestiwn na allaf ei ateb ond fe fentraf gynnig taw mater o beidio â cholli golwg ar eu rhyw a'u rhywedd yw e.
On Oct 1, 2013 8:50 AM, "Geraint Lovgreen" <[log in to unmask]> wrote:Sori, pobol Trawsfynydd oedd gen i mewn golwg. Jôc wael dwi'n gwbod.Gofyn iddyn 'nhw' ydw i - a derbyn y pwynt am ddeurywiol a thrawsrywiol/wisgol - pam nad ydi lesbiaid yn derbyn y gair 'hoyw'? Mond gofyn o ran diddordeb ydw i!----- Original Message -----From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">Cyfieithydd AchlysurolTo: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">[log in to unmask]Sent: Monday, September 30, 2013 6:34 PMSubject: Re: Ally - alliesWel, dyna ti wedi ateb dy gwestiwn dy hun: nid pawb ar y sbectrwm sy'n hoyw. A beth bynnag am hynny, pa hawl sy gan griw o gyfieithwyr heteronormatif fel y rhan fwyaf ohonim ni, i fathu gair neu i bennu sut i ddefnyddio gair i ddisgrifio pobl ar y sbectrwm hwn? Onid gofyn iddyn nhw ddylem ni fod, yn hytrach na dweud?
On Sep 30, 2013 6:06 PM, "Geraint Lovgreen" <[log in to unmask]> wrote:
Dwi'n dallt hynny, ond gan mai term "gwneud" ydi "hoyw" yn yr ystyr yma gellid ei ddefnyddio fel gair ymbarel i olygu'r cyfan, neu ddyfeisio gair arall i olygu'r cyfan, ac osgoi'r angen i gael acronym hyll!Dwi'n nabod ambell un o bobl Traws sydd ddim yn hoyw hefyd.----- Original Message -----From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">Cyfieithydd AchlysurolTo: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">[log in to unmask]Sent: Monday, September 30, 2013 4:46 PMSubject: Re: Ally - alliesYn syml iawn am nad yw pobl ddeurywiol (yr elfen 'di' yn El Aitsh Di Ti) yn hoyw: ystyr deurywiol heddiw yw atyniad at fwy nag un rhywedd. A does dim sicrwydd bod pobl draws* o reidrwydd yn hoyw chwaith.
On Sep 30, 2013 10:43 AM, "Geraint Lovgreen" <[log in to unmask]> wrote:
Sut mae deud yr acronym? El-aitsh-di-ti neu L-hy-dy-ty?A dwi byth wedi dallt pam na fedran nhw i gyd ddim jyst derbyn "hoyw" fel disgrifiad cyffredinol. Yn enwedig lesbiaid. Ydi lesbiaid ddim yn hoyw?Mae o braidd fel y Judean Popular People's Front a'r People's Popular Front of Judea i fi.Geraint----- Original Message -----From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">Cyfieithydd AchlysurolTo: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">[log in to unmask]Sent: Saturday, September 28, 2013 9:45 PMSubject: Re: Ally - alliesDiolch i bawb am eich awgrymiadau, ac ymddiheuriadau am beidio ag ateb yn gynt - dyma'r cyfle cynta rwy wedi'i gael i edrych ar e-byst ers diwrnode.
LDHT rwy wedi'i ddefnyddio, a hynny am ddau reswm: dyna'r acronym a ddefnyddiwyd pan o'n i yn y brifysgol, a hefyd mae cynulleidfa'r ddogfen yn debygol o fod yn gyfarwydd â'r acronym - neu o leia'n gallu gweithio ma's beth yw ei ystyr o'r cyd-destun.
Fel arfer byddwn i'n cytuno â ti, Geraint, ond rwy yn meddwl bod LHDT yn acronym ddylai bod yn fwy cyffredin.
O ran y cwestiwn gwreiddiol, sef ally, ar hyn o bryd rwy'n defnyddio 'cefnogol' - rhywun sy'n gefnogol i bobl hoyw, deurywiol neu draws* (traws*/trans* yn cynnwys trawsrywiol, trawsryweddol ac unrhyw 'draws' arall, yn ogystal â phobl nad y'n nhw'n uniaethu fel dim un o'r uchod, e.e. 'gender queer' ac ati)
On 27/09/2013 11:38, Geraint Lovgreen wrote:
Caredigyn felly?
Ond plis paid a deud bod ti'n defnyddio LHDTh - acronym cwbl annealladwy!
Fel sydd wedi'i drafod yma sawl gwaith o'r blaen, dydi acronymau fel hyn ddim yn gweithio yn y Gymraeg (ar wahân i ambell eithriad fel UCAC)
Geraint
Sent from my iPhone
On 27 Medi 2013, at 11:15 AM, Sian Roberts <[log in to unmask]> wrote:
Rwy'n meddwl bod angen enw unigol, Ann
Mae dogfen Stonewall (y ceir dyfyniad ohoni isod) yn mynd ymlaen i ddweud:
"The action they take can range from being a
leader of an organisation that puts equality – including gay equality –
at the heart of the business to being a junior member of staff who
challenges homophobic banter amongst colleagues.
Siân
On 2013 Medi 27, at 11:08 AM, Ann Corket wrote:
un o garedigion - ond 'rwy'n dal heb ddeal beth ydyn nhw.
Ann
On 27/09/2013 10:45, Saunders, Tim wrote:
Ah. Dim ond y lluosog welais Iir gair erioed – caredigion yr achos, caredigion y Gymraeg, ayyb.
T
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 27 September 2013 10:37
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Ally - allies
"Caredigion" yn dda - ond beth yw'r unigol?
O ddogfen gan Stonewall:
‘Straight ally’ is a term used to describe heterosexual people who
believe that lesbian, gay and bisexual people should experience full
equality in the workplace. Good straight allies recognise that gay
people can perform better if they can be themselves and straight allies
use their role within an organisation to create a culture where this can
happen.
On 2013 Medi 27, at 10:23 AM, Saunders, Tim wrote:
Caredigion?
T
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sioned
Graham-Cameron
Sent: 27 September 2013 10:16
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Ally - alliesFedra i ddim meddwl am air .. a fyddai modd dweud rhywbeth fel "sy'n
gefn i.."??Sioned
On 27 Sep 2013, at 10:10, Saunders, Tim wrote:
LHDTh ... atgoffa fi ...
T
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Cyfieithydd
Achlysurol
Sent: 26 September 2013 22:34
Subject: Ally - allies
Sut mae cyfleu'r syniad o 'ally' yng nghyd-destun materion LHDTh yn
gryno, os gwelwch yn dda? Dyw 'cynghreiriad' ddim yn taro ddeuddeg
rhywsut.
Diolch
This transmission is intended for the named addressee(s) only and may
contain sensitive or protectively marked material up to RESTRICTED and
should be handled accordingly. Unless you are the named addressee (or
authorised to receive it for the addressee) you may not copy or use it,
or disclose it to anyone else. If you have received this transmission in
error please notify the sender immediately. All traffic including GCSx
may be subject to recording and/or monitoring in accordance with
relevant legislation
For the full disclaimer please access
http://www.rctcbc.gov.uk/disclaimer
Mae'r neges ar gyfer y person(au) a enwyd yn unig a gall gynnwys
deunydd sensitif neu ddeunydd sy wedi'i farcio hyd at 'CYFYNGEDIG' a
dylid ei thrin yn unol a hynny. Os nad chi yw'r person a enwyd (neu os
nad oes gyda chi'r awdurdod i'w derbyn ar ran y person a enwyd) chewch
chi ddim ei chopio neu'i defnyddio, neu'i datgelu i berson arall. Os
ydych wedi derbyn y neges ar gam a wnewch roi gwybod i'r sawl sy wedi
anfon y neges ar unwaith. Mae modd cofnodi a/neu fonitro holl negeseuon
GCSX yn unol a'r ddeddfwriaeth berthnasol.I weld yr ymwadiad llawn ewch i http://www.rctcbc.gov.uk/ymwadiad
This transmission is intended for the named addressee(s) only and may contain sensitive or protectively marked material up to RESTRICTED and should be handled accordingly. Unless you are the named addressee (or authorised to receive it for the addressee) you may not copy or use it, or disclose it to anyone else. If you have received this transmission in error please notify the sender immediately. All traffic including GCSx may be subject to recording and/or monitoring in accordance with relevant legislation
For the full disclaimer please access http://www.rctcbc.gov.uk/disclaimer
Mae'r neges ar gyfer y person(au) a enwyd yn unig a gall gynnwys deunydd sensitif neu ddeunydd sy wedi'i farcio hyd at 'CYFYNGEDIG' a dylid ei thrin yn unol a hynny. Os nad chi yw'r person a enwyd (neu os nad oes gyda chi'r awdurdod i'w derbyn ar ran y person a enwyd) chewch chi ddim ei chopio neu'i defnyddio, neu'i datgelu i berson arall. Os ydych wedi derbyn y neges ar gam a wnewch roi gwybod i'r sawl sy wedi anfon y neges ar unwaith. Mae modd cofnodi a/neu fonitro holl negeseuon GCSX yn unol a'r ddeddfwriaeth berthnasol.
I weld yr ymwadiad llawn ewch i http://www.rctcbc.gov.uk/ymwadiad
This transmission is intended for the named addressee(s) only and may contain sensitive or protectively marked material up to RESTRICTED and should be handled accordingly. Unless you are the named addressee (or authorised to receive it for the addressee) you may not copy or use it, or disclose it to anyone else. If you have received this transmission in error please notify the sender immediately. All traffic including GCSx may be subject to recording and/or monitoring in accordance with relevant legislation
For the full disclaimer please access http://www.rctcbc.gov.uk/disclaimer
Mae'r neges ar gyfer y person(au) a enwyd yn unig a gall gynnwys deunydd sensitif neu ddeunydd sy wedi'i farcio hyd at 'CYFYNGEDIG' a dylid ei thrin yn unol a hynny. Os nad chi yw'r person a enwyd (neu os nad oes gyda chi'r awdurdod i'w derbyn ar ran y person a enwyd) chewch chi ddim ei chopio neu'i defnyddio, neu'i datgelu i berson arall. Os ydych wedi derbyn y neges ar gam a wnewch roi gwybod i'r sawl sy wedi anfon y neges ar unwaith. Mae modd cofnodi a/neu fonitro holl negeseuon GCSX yn unol a'r ddeddfwriaeth berthnasol.
I weld yr ymwadiad llawn ewch i http://www.rctcbc.gov.uk/ymwadiad
No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2012.0.2242 / Virus Database: 3222/6210 - Release Date: 09/30/13No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2012.0.2242 / Virus Database: 3222/6210 - Release Date: 09/30/13No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2012.0.2242 / Virus Database: 3222/6212 - Release Date: 09/30/13