Mae stori ar y newyddion ynghych "concussion" mewn rygbi. Mae'r BBC yn defnyddio "cyfergyd" - a dyna sydd i'w weld mewn geiriaduron. "Ar hyn o bryd nid oes gan Undeb Rygbi Cymru raglen o hyfforddiant gorfodol ar gyfer delio gyda chyfergydion." http://www.bbc.co.uk/newyddion/24562269?utm_source=twitterfeed&utm_medium=twitter Ond, yn ôl a welaf i, mae'r gair "concussion" yn tarddu o'r Lladin am "ysgytwad ffyrnig" ac wedyn wedi mynd i olygu effeithiau'r ysgytwad ar yr ymennydd. Wela i ddim bod "cyfergyd" yn addas ar gyfer y cyflwr y mae rhywun yn dioddef ohono ar ôl cael slap i'w ben. Unrhyw awgrymiadau? Diolch Siân