Print

Print



Diolch Matthew,
 
Mae'n well gen i heulol fel ansoddair. Neu solar - gwres solar sy'n cael ei ddefnyddio am y systemau gwresogi ynde?
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Matthew Clubb [auc]
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Wednesday, October 09, 2013 11:30 AM
Subject: ATB/RE: Solar radiation

‘Sunny’ yw’r ystyr mwyaf cyfarwydd – ond sai’n siŵr ei bod hi’n deg dweud bod heulog yn gyfieithiad ‘gwael iawn’ - ‘heulog’ a ddefnyddiwyd gan J. Silas Evans yn ôl yn y 1920au (‘y gyfundrefn heulog’, ‘cysawd heulog’ gw. http://www.jonesbryn.plus.com/wastronhist/sas/ss24f.html  ) ac mae rhai enghreifftiau yn Y Gwyddonydd (gweler http://welshjournals.llgc.org.uk/browse/viewpage/llgc-id:1394134/llgc-id:1405295/llgc-id:1405317/get650/heulog)

 

Ond efallai y byddai ‘heulol’ yn well gennych, Geraint? http://welshjournals.llgc.org.uk/browse/viewpage/llgc-id:1394134/llgc-id:1406453/llgc-id:1406471/get650/heulol

 

Mae’n siŵr y byddai ‘pelydriad yr haul’ yn gwneud y tro fel arfer, ond (a dyma ddangos fy anwybodaeth lwyr yma) – tybed a yw sêr eraill heblaw ein haul ni yn gollwng ‘pelydriad heulol’ hefyd, ac felly na fyddai ‘pelydiad yr haul’ yn addas?

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 09 Hydref 2013 10:32
To: [log in to unmask]
Subject: Solar radiation

 

Mae Cysgair yn rhoi "Pelydriad heulog" - ond fedr hyn ddim bod yn iawn, siawns? Mae'n fy nharo i fel cyfieithiad gwael iawn. "Sunny" ydi heulog, siwr iawn.

 

Pelydriad yr haul, neu belydriad solar, biau hi de?

 

Geraint

No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2012.0.2242 / Virus Database: 3222/6234 - Release Date: 10/08/13