Annwyl gyfeillion,
Mae "associate" fel enw (mewn teitlau swyddi) yn codi fwy a mwy. Beth fyddwch chi'n ei ddefnyddio? Er enghraifft:
legal associate
building associate
senior associate
Weithau mae na ffordd o gwmpas y broblem, a dw i wedi gweld 'swyddog cyswllt' am associate, ond dw i'n rhyw deimlo bod y swyddi ma ar lefel reit uchel fel arfer, a dw i ddim yn siŵr ydy swyddog yn cyfleu hynny'n ddigonol?
Diolch am bob cyngor!
Osian