Gwall yw "dimidatus"[sic] am "dimidiatus" - deuhanerog.
Un o'r chwilod plymio yw hi, a'r fwyaf yn ol pob golwg (felly, "king").  Byddai "chwilen blymio ddeuhanerog" yn gyfieithiad diogel, ffyddlon i'r enw Lladin.  Ond gan mai llond ceg yw hynny, efallai y byddai "y chwilen blymio fwyaf" yn ddigon da.  "Plymio", sylwer, nid "deifio"; ystyr "deifio" yw lledlosgi, "singe" yn Saesneg.

Cofion gorau atoch, Claire,

Bruce G.
On 16/10/2013 11:46, Claire Richards wrote:
[log in to unmask]" type="cite">

King beetle - Dytiscus dimidatus

 

A ŵyr rhywun am enw Cymraeg ar y chwilen hon?

 

Claire

 

Mae Pennawd Cyf yn gwmni cyfyngedig wedi'i gofrestru yng Nghymru a Lloegr o dan y rhif cofrestru 4276774, a chyfeiriad y swyddfa gofrestredig yw 46A Heol Merthyr, yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 1DJ.

 

Pennawd Cyf is a limited company registered in England and Wales under the number 4276774, and the address of the registered office is 46A Merthyr Road, Whitchurch, Cardiff, CF14 1DJ.