Amser cinio dedwydd un ac oll! Hwn yn un bach diddorol ichi ...(neu bosib mai fi sy angen brêc!) *'Llannunlle' Trail Challenge* (sôn am deitl ras ar hyd llwybr cefn gwlad) Mae'r wefan eisoes wedi ei gyfieithu fel *Sialens Llwybr* ... ond yn agored i'w newid. Mae *Sialens (neu Her) Llwybr Llannunlle* yn swndio'n iawn ar y cyfan, ond mae'n cael ei ddefnyddio'n fynych heb enwi'r lleoliad, sef *Sialens Llwybr* am *Trail Challenge*. Dydi hwnna ddim yn taro'r glust mor dyner i mi... na Her Llwybr... Beth am *Her-Lwybr*? Dwn i'm! I mi, mae *Llwybr Sialens*/Her i'w glywed yn well. Mae rhywbeth gyda Her ar ei flaen yn taro fel enwi dyn o'r Almaen, gyda phob parch. Peidiwch â thagu ar ei brechdan dros hwn, ond... Diolch, Dafydd <http://www.rctcbc.gov.uk/ymwadiad>