Amser cinio dedwydd un ac oll!
Hwn yn un bach diddorol ichi ...(neu bosib mai fi sy angen brêc!)
'Llannunlle' Trail Challenge (sôn am deitl ras ar hyd
llwybr cefn gwlad)
Mae'r wefan eisoes wedi ei gyfieithu fel
Sialens Llwybr
... ond yn agored i'w newid.
Mae
Sialens (neu Her) Llwybr Llannunlle yn swndio'n iawn
ar y cyfan, ond mae'n cael ei ddefnyddio'n fynych heb enwi'r
lleoliad,
sef
Sialens Llwybr am
Trail Challenge. Dydi hwnna
ddim yn taro'r glust mor dyner i mi... na Her Llwybr...
Beth am
Her-Lwybr? Dwn i'm!
I mi, mae
Llwybr Sialens/Her i'w glywed yn well.
Mae rhywbeth gyda Her ar ei flaen yn taro fel enwi dyn o'r Almaen,
gyda phob parch.
Peidiwch â thagu ar ei brechdan dros hwn, ond...
Diolch,
Dafydd