Os dwi'n gweld yb, yp a yh, be dwi'n clwad yn fy mhen ydi, nid y peth yn llawn ond 'yb', 'yp' ac 'y-hy', felly di'r rhesymeg ddim yn gweithio i mi o gwbl.

Anna


2013/9/24 Eurwyn Pierce Jones <[log in to unmask]>

Meddwl roeddwn i fod y talfyriadau  yb / yp / yh  o leiaf yn dalfyriadau am ymadroddion Cymraeg.  H.y.  wrth weld  9.00 yb  yr hyn fydden ni'n ei glywed yn ein pen ac yn ei draethu ar ein tafod pe byddem ni'n ei lefaru ar goedd, fyddai  naw (o'r gloch) y bore.    Dyna hanfod defnyddio talfyriadau.

 

Ond o weld  9.00 am  dyden ni ddim fel Cymru Cymraeg yn clywed yn ein pennau nac yn ynganu ar dafod-leferydd, naill ai  Naw (o'r gloch) anno domini   na   Naw (o'r gloch) ee-em .  Yn yr ystyr hwnnw, y mae defnyddio talfyriadau cwbl Gymraeg fel   yb / yp / yh   yn gwneud llawer mwy o synnwyr ymarferol i mi, na defnyddio talfyriadau LLADINAIDD!

 

 Eurwyn.

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Mary Jones
Sent: 24 September 2013 14:36
To: [log in to unmask]
Subject: Re: km

 

Os ceisio mynegi’r hyn a arferir ar lafar ydych chi, sut mae cyfiawnhau yh am ‘yr hwyr’? Onid yrh ddylai hynny fod? I fi, dyna yw gwendid eich dadl.

Mary

 

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Eurwyn Pierce Jones
Sent: 24 September 2013 14:13
To: [log in to unmask]
Subject: Re: km

 

AM / PM

 

Fyddwn i'n tueddu i arfer    yb / yp / yh   yn y Gymraeg yn hytrach nag   am / pm ,  ar y sail nad ydyw Cymru Cymraeg yn arfer cyfeirio at amseroedd ar lafar  yn yr un modd ag y cyfeirir atyn nhw drwy'r Saesneg.  E.e.  Fyddwn ni ddim yn dweud AR  LAFAR yn y Gymraeg y bydd cyfarfod yn dechrau am ddeg am, ac yn gorffen am bedwar pm - yn yr un modd ag y byddai'r amseroedd hynny yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith Saesneg.   Yn hytrach:  'Bydd y cyfarfod yn dechrau am ddeg (o'r gloch) y bore ac yn dod i ben am bedwar (o'r gloch) y p'nawn (y prynhawn)'.   Am hynny, ysrifenned hwy felly:  10.00 yb / 4.00 yp / 7.00 yh  pan yn ysgrifennu'r amser yn y Gymraeg - a phan fyddant yn mynd i ymddangos ar hysbysebion, rhaglenni, arwyddion,  ac ati.   Gall yr iaith Saesneg oddef defnyddio  am / pm   gan mai yn y modd hwnnw y cyfeirir at yr amser yn iaith Saesneg:  'The meeting will start at ten(o' clock) am (/ in the morning) and end at four (o' clock) pm (/ in the afternoon)'.  Nid felly yn y Gymraeg.

 

Gyda llaw, am chwech o'r gloch y nos y mae yp yn troi yn yh.  Felly, o hanner adydd (12.00 yp) ymlaen, i fyny at 17.59, (e.e. 17.45  neu  5.45 yp  = chwarter i chwech y p'nawn) defnyddied y talfyriad yp; ond o 18.00  neu  6.00 yh  ymlaen tan hanner nos (12.00 yb) = chwech (o'r gloch) yr hwyr (yh).

 

Eurwyn.

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Cyfieithydd Achlysurol
Sent: 24 September 2013 13:33
To: [log in to unmask]
Subject: Re: km

 

Rwy'n credu gan fod mm, m, km, kg ac ati yn dalfyriadau cydnabyddedig o unedau SI, eu gadael sy orau.  Yr un peth gyda mega-, giga-, micro-, pica- ac yn y blaen.  Fel yn achos am a pm, mae gormod o gorsydd i rywun fynd iddyn nhw o ddechrau cyfieithu'n ddiangen.

On Sep 24, 2013 11:09 AM, "Sioned Graham-Cameron" <[log in to unmask]> wrote:

Diolch yn fawr, Siân - dwi wedi bod yn rhoi 'km' heb ryw feddwl llawer amdano, a meddwl yn sydyn oeddwn i'n iawn!

 

 

 

Sioned

 

 

On 24 Sep 2013, at 11:00, Sian Roberts wrote:

 

Yn Termau Adeiladwaith, mae'n dweud 

cilometr (km)

Rwy'n tueddu i gadw "km" ond byddwn yn sgrifennu "cilometr" pe bai angen.

 

Siân

 

 

On 2013 Medi 24, at 10:50 AM, Sioned Graham-Cameron wrote:

 

Be ydi'r arfer efo 'km' (kilometre) yn y Gymraeg - ei adael fel y mae neu sgwennu 'cilomedr' yn llawn neu beth?

Diolch ymlaen llaw
Sioned

 

 

No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2013.0.3408 / Virus Database: 3222/6694 - Release Date: 09/24/13