AM / PM
Fyddwn i'n tueddu i arfer yb / yp / yh yn y Gymraeg yn hytrach nag am / pm , ar y sail nad ydyw Cymru Cymraeg yn arfer cyfeirio at amseroedd ar lafar yn yr un modd ag y cyfeirir atyn nhw drwy'r Saesneg. E.e. Fyddwn ni ddim yn dweud AR LAFAR yn y Gymraeg y bydd cyfarfod yn dechrau am ddeg am, ac yn gorffen am bedwar pm - yn yr un modd ag y byddai'r amseroedd hynny yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith Saesneg. Yn hytrach: 'Bydd y cyfarfod yn dechrau am ddeg (o'r gloch) y bore ac yn dod i ben am bedwar (o'r gloch) y p'nawn (y prynhawn)'. Am hynny, ysrifenned hwy felly: 10.00 yb / 4.00 yp / 7.00 yh pan yn ysgrifennu'r amser yn y Gymraeg - a phan fyddant yn mynd i ymddangos ar hysbysebion, rhaglenni, arwyddion, ac ati. Gall yr iaith Saesneg oddef defnyddio am / pm gan mai yn y modd hwnnw y cyfeirir at yr amser yn iaith Saesneg: 'The meeting will start at ten(o' clock) am (/ in the morning) and end at four (o' clock) pm (/ in the afternoon)'. Nid felly yn y Gymraeg.
Gyda llaw, am chwech o'r gloch y nos y mae yp yn troi yn yh. Felly, o hanner dydd (12.00 yp) ymlaen, i fyny at 17.59, (e.e. 17.45 neu 5.45 yp = chwarter i chwech y p'nawn) defnyddied y talfyriad yp; ond o 18.00 neu 6.00 yh ymlaen tan hanner nos (12.00 yb) = chwech (o'r gloch) yr hwyr (yh).
Eurwyn.
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Cyfieithydd Achlysurol
Sent: 24 September 2013 13:33
To: [log in to unmask]
Subject: Re: km
Rwy'n credu gan fod mm, m, km, kg ac ati yn dalfyriadau cydnabyddedig o unedau SI, eu gadael sy orau. Yr un peth gyda mega-, giga-, micro-, pica- ac yn y blaen. Fel yn achos am a pm, mae gormod o gorsydd i rywun fynd iddyn nhw o ddechrau cyfieithu'n ddiangen.
On Sep 24, 2013 11:09 AM, "Sioned Graham-Cameron" <[log in to unmask]> wrote:
Diolch yn fawr, Siân - dwi wedi bod yn rhoi 'km' heb ryw feddwl llawer amdano, a meddwl yn sydyn oeddwn i'n iawn!
Sioned
On 24 Sep 2013, at 11:00, Sian Roberts wrote:
Yn Termau Adeiladwaith, mae'n dweud
cilometr (km)
Rwy'n tueddu i gadw "km" ond byddwn yn sgrifennu "cilometr" pe bai angen.
Siân
On 2013 Medi 24, at 10:50 AM, Sioned Graham-Cameron wrote:
Be ydi'r arfer efo 'km' (kilometre) yn y Gymraeg - ei adael fel y mae neu sgwennu 'cilomedr' yn llawn neu beth?
Diolch ymlaen llaw
Sioned