Mewn rhestriadau mi fyddaf yn defnyddio am & pm neu mae petha'n mynd yn fler iawn. Mewn testun mi fyddaf yn sgwennu'r peth yn llawn - weithia'n ei hepgor - go brin bod cyngerdd yn mynd i gychwyn am ddau o'r gloch y bore). Dwi'm yn gweld bod yb, yp a yh yn ddim gwell (cytuno na dan ni ddim yn deud pee-emm ac ay-emm, ond o leia mae'r rheini'n gyfarwydd, a dan ni ddim yn deud yb, yp ac yh chwaith (petai modd deud yh)). Anna 2013/9/24 Eurwyn Pierce Jones <[log in to unmask]> > AM / PM**** > > ** ** > > Fyddwn i'n tueddu i arfer *yb* / *yp* / *yh * yn y Gymraeg yn hytrach > nag *am* / *pm* , ar y sail nad ydyw Cymru Cymraeg yn arfer cyfeirio > at amseroedd *ar lafar* yn yr un modd ag y cyfeirir atyn nhw drwy'r > Saesneg. E.e. Fyddwn ni ddim yn dweud AR LAFAR yn y Gymraeg y bydd > cyfarfod yn dechrau am ddeg *am*, ac yn gorffen am bedwar *pm* - yn yr un > modd ag y byddai'r amseroedd hynny yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith Saesneg. > Yn hytrach: 'Bydd y cyfarfod yn dechrau am ddeg (o'r gloch) *y bore*ac yn dod i ben am bedwar (o'r gloch) > *y p'nawn* (y prynhawn)'. Am hynny, ysrifenned hwy felly: 10.00 *yb* / > 4.00 *yp* / 7.00 *yh* pan yn ysgrifennu'r amser yn y Gymraeg - a phan > fyddant yn mynd i ymddangos ar hysbysebion, rhaglenni, arwyddion, ac ati. > Gall yr iaith Saesneg oddef defnyddio * am* / *pm * gan mai yn y modd > hwnnw y cyfeirir at yr amser yn iaith Saesneg: 'The meeting will start at > ten(o' clock) *am* (/ in the morning) and end at four (o' clock) *pm* (/ > in the afternoon)'. Nid felly yn y Gymraeg.**** > > ** ** > > Gyda llaw, am chwech o'r gloch y nos y mae *yp* yn troi yn *yh*. Felly, > o hanner dydd (12.00 yp) ymlaen, i fyny at 17.59, (e.e. 17.45 neu 5.45 * > yp* = chwarter i chwech y p'nawn) defnyddied y talfyriad *yp*; ond o > 18.00 neu 6.00 *yh* ymlaen tan hanner nos (12.00 yb) = chwech (o'r > gloch) yr hwyr (*yh*).**** > > ** ** > > Eurwyn.**** > > ** ** > > *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary > [mailto:[log in to unmask]] *On Behalf Of *Cyfieithydd > Achlysurol > *Sent:* 24 September 2013 13:33 > *To:* [log in to unmask] > *Subject:* Re: km**** > > ** ** > > Rwy'n credu gan fod mm, m, km, kg ac ati yn dalfyriadau cydnabyddedig o > unedau SI, eu gadael sy orau. Yr un peth gyda mega-, giga-, micro-, pica- > ac yn y blaen. Fel yn achos am a pm, mae gormod o gorsydd i rywun fynd > iddyn nhw o ddechrau cyfieithu'n ddiangen.**** > > On Sep 24, 2013 11:09 AM, "Sioned Graham-Cameron" <[log in to unmask]> wrote: > **** > > Diolch yn fawr, Siān - dwi wedi bod yn rhoi 'km' heb ryw feddwl llawer > amdano, a meddwl yn sydyn oeddwn i'n iawn!**** > > ** ** > > ** ** > > ** ** > > Sioned**** > > ** ** > > ** ** > > On 24 Sep 2013, at 11:00, Sian Roberts wrote:**** > > > > **** > > Yn Termau Adeiladwaith, mae'n dweud **** > > cilometr (km)**** > > Rwy'n tueddu i gadw "km" ond byddwn yn sgrifennu "cilometr" pe bai angen.* > *** > > ** ** > > Siān**** > > ** ** > > ** ** > > On 2013 Medi 24, at 10:50 AM, Sioned Graham-Cameron wrote:**** > > > > **** > > Be ydi'r arfer efo 'km' (kilometre) yn y Gymraeg - ei adael fel y mae neu > sgwennu 'cilomedr' yn llawn neu beth? > > Diolch ymlaen llaw > Sioned**** > > ** ** > > ** ** >