Ond twmpathe y'n nhw, Geraint - lawr fan hyn yn y De, ta beth. Fydde dim cynnig 'da'r rhan fwya o Ddeheuwyr 'se nhw'n gweld y gair 'ponciau' ond mae'r gair 'twmpath' yn ddigon cyfarwydd
Mi faswn i'n mynd am "gyffordd fwrdd" (neu "gyffordd ford" yn y de) (neu beth am "gyffordd lwyfan"?) gan fod term fel "cyffordd wedi'i chodi" yn mynd i achosi problemau mewn ambell frawddeg.A thra mod i wrthi, ga'i rantio eto yn erbyn "twmpath"? Ponciau arafu ydyn nhw siwr iawn, mae gweld "twmpath" ar arwydd yn dal i wneud i fi ddisgwyl gweld pobol yn dawnsio gwerin ar y ffordd. Mae "gwrymau arafu" yn ddewis arall yn GyA, ond nid twmpathau.Geraint----- Original Message -----From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">Sioned Graham-CameronTo: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">[log in to unmask]Sent: Friday, September 20, 2013 11:21 AMSubject: Re: table junctionGręt - diolch ClaireSioned
On 20 Sep 2013, at 11:18, Claire Richards wrote:
Mae’r Royal Borough of Windsor and Maidenhead yn rhoi diffiniad fel a ganlyn:“Raised junction/Table JunctionsThese similar [sic} to road humps and consist of a plateau or flat top road hump built across the whole area of a junction”(Crand o’i go’, er ychydig yn ddiffygiol o ran berfau)ClaireFrom: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf OfSioned Graham-Cameron
Sent: 20 September 2013 11:11
To: [log in to unmask]
Subject: Re: table junctionDiolch yn fawr Claire. Mae nhw i weld yn bethau digon tebyg yn dydyn. Mi af am 'cyffordd wedi'i chodi' felly!SionedOn 20 Sep 2013, at 11:05, Huw Tegid wrote:Os mai’r un peth ydyn nhw i gyd, mae hwnna’n gynnig gwell na ‘cyffordd fwrdd’ yn fy marn i, Claire.Cofion gorau,HuwFrom: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf OfClaire Richards
Sent: 20 September 2013 10:59
To: [log in to unmask]
Subject: Re: table junctionO edrych ar y we, dwi’n meddwl bod “raised junction”, “table junction” a “raised table junction” i gyd yr un peth.Os felly, “cyffordd wedi’i chodi” yw “raised junction” ar TermCymru.Claire-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sioned Graham-Cameron
Sent: 20 September 2013 10:39
To: [log in to unmask]
Subject: table junctionOes gan unrhyw un syniad be fyddai hwn yn Gymraeg? Dwi'n cael trafferth canfod be ydi o yn Saesneg hefyd!Priffyrdd yw'r cyd-destun.Rwyf wrthi'n holi'r cwsmer, ond mae angen y gwaith ar frys, felly meddwl y baswn i'n holi yma.Diolch am unrhyw gymorthSioned
No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2013.0.3408 / Virus Database: 3222/6678 - Release Date: 09/18/13No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2012.0.2242 / Virus Database: 3222/6182 - Release Date: 09/19/13