Dwi'n ei weld o'n wahanol i rywbeth fel yr NVQ gan mai rhyw acronym 'gwneud' ydi o hyd y gwela i - h.y. nid teitl unrhyw beth ond disgrifiad - massive open online course (llythrennau bach). Dydio fawr o wahaniaeth a deud y gwir - bydd raid i mi roi'r fersiwn llawn beth bynnag neu fydd neb yn ei ddeall ! Ond sut mae ynganu MOOC yn Gymraeg? Dwi'n cymryd mai m^wc ydi'r ynganiad Saesneg ie? ----- Original Message ----- From: Catrin Beard To: [log in to unmask] Sent: Thursday, September 19, 2013 4:01 PM Subject: Re: MOOC, SMOOC MOOC mae'r Llywodraeth yn ei ddefnyddio. Gan fod cynifer o fyrfoddau yn y maes, fyddwn i'n dadlau dros gadw hwn fel y mae (fel NVQ), yn enwedig os yw'r byrfodd newydd arfaethedig yn decrhau ag C Catrin From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen Sent: 19 September 2013 15:42 To: [log in to unmask] Subject: MOOC, SMOOC MOOC = massive open online course Fersiwn byr o hynny ydi'r SMOOC - sef (o'r hyn y galla i ddirnad) small or medium online course Mi wnes i feddwl am Cwrs Ar-lein Agored Mawr - CAAM ac wedyn CAAM Bach am SMOOC. Dwi heb allu dod o hyd i ddim byd ar y we ond tybed oes yna bobl ym myd addysg sy'n gwybod am gyfieithiad sy'n bodoli eisoes cyn i mi fynd ati i fathu! Geraint No virus found in this message. Checked by AVG - www.avg.com Version: 2012.0.2242 / Virus Database: 3222/6178 - Release Date: 09/18/13