Ateb arbennig o dda, yn fy marn i. From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sioned Graham-Cameron Sent: 18 Medi 2013 10:24 To: [log in to unmask] Subject: Re: patching Diolch am yr wybodaeth ychwanegol. Tybed fedrwn i ddefnyddio rhywbeth fel "gwaith patsh" neu "weithio patsh" gan nad oes berfenw wedi ei gofnodi? Sioned On 17 Sep 2013, at 23:04, Sian Reeves wrote: Mae Geirfa'r Glowr yn cyfeirio at 'peitiswr' a 'paitsh': peitsiwr - gweithiwr mewn rhai o weithfeydd glo Y Rhos a ddefnyddiai'r paitsh...math o focs tun ...a dynnid ar hyd y llawr ac o dan y glo a orweddai yng nghyffiniai'r wyneb... ond does dim cofnod o ferfenw (patsio). From: David Bullock <[log in to unmask]> To: [log in to unmask] Sent: Tuesday, 17 September 2013, 22:29 Subject: Re: patching <x-msg://446/> Mae 'patshys' glo yn ddigon cyfarwydd i fi o ardal Merthyr, ac roedd yna ddyn o'r enw Dai Patsh ym mhentre Heolgerrig pan o'n i'n fach, ond dwy ddim wedi clywed na gweld 'patsio' - a dyna fyddech chi'n disgwyl ei glywed mae'n debyg. Er bod GPC yn cyfeirio at patsh/pats fel 'ardal a weithir i gael mwyn brig', does dim enghraifft yno o'r berfenw mewn cyd-destun glofaol. Oes gan rywun gopi o Geirfa'r Glöwr, rhag ofn bod cofnod yn honno? From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sioned Graham-Cameron Sent: 17 Medi 2013 15:58 To: [log in to unmask] Subject: patching Sori, fi eto. Yr un pwnc: Originally coal exposed on the surface was mined by patching, but once the surface coal was exhausted miners tunnelled into the hillside in a process called drift mining. Found close to the surface they were worked by digging shallow holes. You can see lots of these old workings (called patching) along the Heads of the Valleys. Fyddai 'clytio' yn gwneud am 'patching'?? Diolch Sioned