Print

Print

Oherwydd nad yw rhywun yn CBAC / sy’n cyfieithu ar ran CBAC yn sylweddoli bod ystyr arall i’r gair Saesneg, efallai?

Eisiau tynnu ei sylw at yr OED, ystyr 6 (a 5 o ran hynny).

Ac wedyn i ystyr 2 yng Ngeiriadur yr Academi (tud. 292) yn ogystal â llyfr Robyn Lewis, fel dywed Sylvia.

Claire

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Saunders, Tim
Sent: 18 September 2013 14:31
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Cadwyni geiriau

Consideration yn wir!

‘Cydnabyddiaeth’ yw’r term arferol, ond mae CBAC wedi mabwysiadu ‘ystyried’. Nis gwn paham.

T

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Claire Richards
Sent: 18 September 2013 14:29
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Cadwyni geiriau

Pa air Saesneg sydd dan sylw yma?  Ai “consideration”?

Hefyd, yn y pâr mae’r naill air yn enw a’r llall yn ferfenw.  Oes rheswm dros hynny?

Claire

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Saunders, Tim
Sent: 18 September 2013 14:23
To: [log in to unmask]
Subject: Cadwyni geiriau

Hoffwn weld eich sylwadau ar hyn, os oes profiad gyda chi yn y fater hon, neu os buoch chi’n cnoi cil ar hyn o dro i dro. Nid oes brys o gwbl, ac mae’n bosibl fod rhai ohonom o’r farn nad oes dim i’w drafod yn hyn o beth fodd bynnag. Sôn yr wyf am yr arfer o saernio rhyw gadwyn fechan o eiriau pan fod mwy nag un yn cael ei arfer ar gyfer yr un syniad. Er enghraifft, sylwais fod dogfennau swyddogol – gan gynnwys deddfwriaeth – yn sôn am ‘gwrychoedd a pherthi’, os yw’r ddogfen i fod mewn grym dros y wlad gyfan. Un arall a welais oedd ‘nodi a phennu’, ar gyfer identify mewn rhai cyd-destunau penodol. Wrth reswm, mae hyn yn galw i gof beth oedd yn digwydd adeg y Dadeni Dysg a’r Diwygiad Protestannaidd, pan oedd galw am roi mynegiant clir i bob math o gysyniadau newydd.

Yr hyn a’m sbardunodd i wyntyllu’r pwnc hwn oedd gweld fod CBAC heb dderbyn y term arferol ‘cydnabyddiaeth’,, sy’n yng nghyfraith contract ar gyfer y tâl neu adduned sydd, gyda’r cynnig a’r derbyn, yn rhoi grym cyfraith i gytundeb. Er bod llu o ddogfennau contract a welais, (a GyG, wrth gwrs,) yn arfer ‘cydnabyddiaeth’, mae CBAC wedi dechrau dysgu ‘ystyried’. O ganlyniad, bydd cenedlaethau o fyfyrwyr yn dod i arfer ag ‘ystyried’. Tybed a fyddai modd osgoi camddealltwriaeth, a chanlyniadau honno, drwy roi’r ddau at ei gilydd fel ‘cydnabyddiaeth ac ystyried’?

Tim

Tim Saunders,

Cyfieithydd / Translator,

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf / Rhondda Cynon Taf County Borough Council

This transmission is intended for the named addressee(s) only and may contain sensitive or protectively marked material up to RESTRICTED and should be handled accordingly. Unless you are the named addressee (or authorised to receive it for the addressee) you may not copy or use it, or disclose it to anyone else. If you have received this transmission in error please notify the sender immediately. All traffic including GCSx may be subject to recording and/or monitoring in accordance with relevant legislation

For the full disclaimer please access http://www.rctcbc.gov.uk/disclaimer

Mae'r neges ar gyfer y person(au) a enwyd yn unig a gall gynnwys deunydd sensitif neu ddeunydd sy wedi'i farcio hyd at 'CYFYNGEDIG' a dylid ei thrin yn unol a hynny. Os nad chi yw'r person a enwyd (neu os nad oes gyda chi'r awdurdod i'w derbyn ar ran y person a enwyd) chewch chi ddim ei chopio neu'i defnyddio, neu'i datgelu i berson arall. Os ydych wedi derbyn y neges ar gam a wnewch roi gwybod i'r sawl sy wedi anfon y neges ar unwaith. Mae modd cofnodi a/neu fonitro holl negeseuon GCSX yn unol a'r ddeddfwriaeth berthnasol. 

I weld yr ymwadiad llawn ewch i http://www.rctcbc.gov.uk/ymwadiad