Diolch am yr wybodaeth ychwanegol. Tybed fedrwn i ddefnyddio rhywbeth fel "gwaith patsh" neu "weithio patsh" gan nad oes berfenw wedi ei gofnodi? Sioned On 17 Sep 2013, at 23:04, Sian Reeves wrote: > > Mae Geirfa'r Glowr yn cyfeirio at 'peitiswr' a 'paitsh': > > peitsiwr - gweithiwr mewn rhai o weithfeydd glo Y Rhos a ddefnyddiai'r paitsh...math o focs tun ...a dynnid ar hyd y llawr ac o dan y glo a orweddai yng nghyffiniai'r wyneb... > > ond does dim cofnod o ferfenw (patsio). > > From: David Bullock <[log in to unmask]> > To: [log in to unmask] > Sent: Tuesday, 17 September 2013, 22:29 > Subject: Re: patching > > Mae 'patshys' glo yn ddigon cyfarwydd i fi o ardal Merthyr, ac roedd yna ddyn o'r enw Dai Patsh ym mhentre Heolgerrig pan o'n i'n fach, ond dwy ddim wedi clywed na gweld 'patsio' - a dyna fyddech chi'n disgwyl ei glywed mae'n debyg. Er bod GPC yn cyfeirio at patsh/pats fel 'ardal a weithir i gael mwyn brig', does dim enghraifft yno o'r berfenw mewn cyd-destun glofaol. > > Oes gan rywun gopi o Geirfa'r Glöwr, rhag ofn bod cofnod yn honno? > > > From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sioned Graham-Cameron > Sent: 17 Medi 2013 15:58 > To: [log in to unmask] > Subject: patching > > Sori, fi eto. Yr un pwnc: > > Originally coal exposed on the surface was mined by patching, but once the surface coal was exhausted miners tunnelled into the hillside in a process called drift mining. > Found close to the surface they were worked by digging shallow holes. You can see lots of these old workings (called patching) along the Heads of the Valleys. > > Fyddai 'clytio' yn gwneud am 'patching'?? > > Diolch > Sioned > >