Print

Print


Ia'n te. Dacia. Wedi'i anfon rwan, ond mi ddalia i hyn mewn cof. Mae hi mor hawdd mynd fel malwan mewn triog tydi.

Anna


2013/9/14 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>
"Cafodd D wybod fod ei gariad wedi marw" fysa'n ffordd fwy naturiol o'i ddeud o. 

Sent from my iPhone

On 13 Medi 2013, at 11:31 AM, anna gruffydd <[log in to unmask]> wrote:

Ia'n de! Mae'n siwr basa werth i mi gael Geiriau Lletchwith hefyd.

Anna


2013/9/13 Sioned Graham-Cameron <[log in to unmask]>
Dwi'n meddwl mai ti argymhellodd o i mi, amser maith yn ôl! Mae o yn ddefnyddiol dros ben. Prynais ei gyfrol 'Y Geiriau Lletchwith" ar yr un pryd.

Sioned


On 13 Sep 2013, at 11:13, anna gruffydd wrote:

A! diolch am f'atgoffa i am y llyfr bach cle^n yna, heb ei ddefnyddioo ers tro.

Anna


2013/9/13 Sioned Graham-Cameron <[log in to unmask]>
'Pa Arddodiad' D Geraint Jones yn cadarnhau bod 'clywed am (rywbeth) ...' yn iawn.

Sioned


On 13 Sep 2013, at 11:01, anna gruffydd wrote:

Mae 'clywed am' yn iawn felly ydi? Am ryw reswm roedd gen i chwilen yn fy mhen na cheid deud 'clywed am'... Ond ardderchog, os ca i. Diolch.

Anna


2013/9/13 Sian Jones <[log in to unmask]>
beth am 'Clywodd D am farwolaeth ei gariad...?


Date: Fri, 13 Sep 2013 11:57:52 +0200
From: [log in to unmask]
Subject: news
To: [log in to unmask]

Roedd y frawddeg yma i'w gweld yn ddigon syml, nes i mi ddechra'i cyfieithu, rwan dwi di mwydro mhen yn la^n:- Dvořák received news of the death of his  sweetheart

'clywodd D hanes marwolaeth...' 'clywodd D so^n am farwolaeth'???

Diolch

Anna