Print

Print


Dyna ddaeth i'm meddwl i gynta; dwi'm yn cofio, wir, pam newidias i fy
meddwl - mae'r gell fach lwyd lle'r oedd y penderfyniad hwnnw wedi marw
hithau. Ond dwi'n cytuno, y berfenw amdani bob gafael os medra i.

Anna




2013/9/13 Sian Roberts <[log in to unmask]>

> A fydden ni'n fwy tebygol o ddweud "Clywodd D fod ei gariad wedi marw"?
> Wedi bod yng nghynhadledd Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru - ac wedi cael ein
> hatgoffa bod y berfenw yn aml yn fwy naturiol na'r enw yn y Gymraeg.
>
> Siân
>
> On 2013 Medi 13, at 10:57 AM, anna gruffydd wrote:
>
> Roedd y frawddeg yma i'w gweld yn ddigon syml, nes i mi ddechra'i
> cyfieithu, rwan dwi di mwydro mhen yn la^n:- Dvořák received news of the
> death of his  sweetheart
>
> 'clywodd D hanes marwolaeth...' 'clywodd D so^n am farwolaeth'???
>
> Diolch
>
> Anna
>
>
>