Meithrin Cydberthnasoedd yn y Gwaith
Canolfan Hyfforddiant Powys yn Llandrindod
01 Hydref 2013
Caiff y cwrs ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru, ac mae’n agored i reolwyr a staff goruchwylio sy’n cael eu talu, neu sy’n wirfoddol, ac sy’n gweithio mewn amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd yng Nghymru. Mae’n addas i’r rhai sy’n dymuno datblygu cydberthnasoedd effeithiol rhwng timau, a chydweithio’n effeithiol â rhwydweithiau a rhanddeiliaid.
Y Nod
Bydd y cwrs yn datblygu dealltwriaeth o sut i fod yn ddylanwadol a phendant a meithrin cydberthynas, a thrwy hynny wella perfformiad ar y cyd.
Erbyn diwedd y cwrs, bydd y mynychwyr yn gallu gwneud y canlynol:
· defnyddio dulliau a thechnegau i gasglu gwybodaeth gan wahanol dimau, a chreu cynlluniau ar gyfer dwyn pwysau
· canfod pwy yw’r rhanddeiliaid hollbwysig ar gyfer eich gwaith, a chynllunio strategaethau ar gyfer negodi a dylanwadu
· gwneud sgyrsiau anodd yn haws drwy dechnegau effeithiol i feithrin cydberthynas
· defnyddio technegau negodi sy’n ceisio cael canlyniadau sy’n foddhaol i bob ochr, gan adael cydweithwyr mewnol ac allanol yn y sefyllfa orau i allu cydweithio yn y dyfodol
· disgrifio’r arddull yr ydych yn ei ffafrio, a chryfderau a chyfyngiadau strategaethau negodi a dylanwadu
Sefydlu anghenion personol:
Mae’r rhaglen “meithrin cydberthnasoedd yn y gwaith” yn cynnig theori, dulliau, a phatrymau ar gyfer meithrin cydberthnasoedd.
Mae’r sesiwn yn cychwyn gyda dadansoddiad o anghenion personol. Caiff yr anghenion hynny eu herio drwy gyfres o weithgareddau, hunanddadansoddi, theori, a dulliau a phatrymau ymarferol.
Yn ystod y sesiwn, byddwn yn edrych ar ddewisiadau ac arddulliau unigolion, gan nodi cysylltiadau â’r dulliau, y theorïau, y patrymau a’r gweithgareddau ymarferol.
Ar sail yr anghenion datblygu a fynegir ar ddechrau’r diwrnod, mae’r sesiwn yn darparu persbectifau newydd ac yn adeiladu ar y cryfderau sy’n bodoli eisoes er mwyn datblygu technegau newydd sy’n ehangu strategaethau meithrin cydberthnasoedd.
Drwy gydol y dydd, byddwn yn cynllunio camau penodol a mesuradwy er mwyn annog pobl i’w defnyddio yn y gwaith ac i ddatblygu amrywiaeth eang o sgiliau dylanwadu.
Hyfforddwr
Bernadette Callanan, Accelerate UK
Cofrestru
Gallwch gadw lle ar y cwrs drwy ddefnyddio ein tudalen gofrestru, EventBrite.
Os bydd eich amgylchiadau’n newid ac na allwch ddod, rhowch wybod i Seaneen cyn gynted ag y bo modd er mwyn inni allu rhoi eich lle i rywun sydd ar y rhestr aros.
Seaneen McGrogan
Cynorthwy-ydd Casgliadau, Safonau a Datblygu'r Gweithlu
Collections, Standards and Workforce Development Assistant
CyMAL: Amgueddfeydd Archifau a Llyfrgelloedd Cymru
CyMAL: Museums Archives and Libraries Wales
Llywodraeth Cymru
Welsh Government
Rhodfa Padarn
Llanbadarn Fawr
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3UR
Ffon/Tel 0300 062 2261.
www.cymru.gov.uk/cymal
www.wales.gov.uk/cymal