Meithrin Cydberthnasoedd yn y Gwaith Canolfan Hyfforddiant Powys yn Llandrindod 01 Hydref 2013 Caiff y cwrs ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru, ac mae'n agored i reolwyr a staff goruchwylio sy'n cael eu talu, neu sy'n wirfoddol, ac sy'n gweithio mewn amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd yng Nghymru. Mae'n addas i'r rhai sy'n dymuno datblygu cydberthnasoedd effeithiol rhwng timau, a chydweithio'n effeithiol â rhwydweithiau a rhanddeiliaid. Y Nod Bydd y cwrs yn datblygu dealltwriaeth o sut i fod yn ddylanwadol a phendant a meithrin cydberthynas, a thrwy hynny wella perfformiad ar y cyd. Erbyn diwedd y cwrs, bydd y mynychwyr yn gallu gwneud y canlynol: * defnyddio dulliau a thechnegau i gasglu gwybodaeth gan wahanol dimau, a chreu cynlluniau ar gyfer dwyn pwysau * canfod pwy yw'r rhanddeiliaid hollbwysig ar gyfer eich gwaith, a chynllunio strategaethau ar gyfer negodi a dylanwadu * gwneud sgyrsiau anodd yn haws drwy dechnegau effeithiol i feithrin cydberthynas * defnyddio technegau negodi sy'n ceisio cael canlyniadau sy'n foddhaol i bob ochr, gan adael cydweithwyr mewnol ac allanol yn y sefyllfa orau i allu cydweithio yn y dyfodol * disgrifio'r arddull yr ydych yn ei ffafrio, a chryfderau a chyfyngiadau strategaethau negodi a dylanwadu Sefydlu anghenion personol: Mae'r rhaglen "meithrin cydberthnasoedd yn y gwaith" yn cynnig theori, dulliau, a phatrymau ar gyfer meithrin cydberthnasoedd. Mae'r sesiwn yn cychwyn gyda dadansoddiad o anghenion personol. Caiff yr anghenion hynny eu herio drwy gyfres o weithgareddau, hunanddadansoddi, theori, a dulliau a phatrymau ymarferol. Yn ystod y sesiwn, byddwn yn edrych ar ddewisiadau ac arddulliau unigolion, gan nodi cysylltiadau â'r dulliau, y theorïau, y patrymau a'r gweithgareddau ymarferol. Ar sail yr anghenion datblygu a fynegir ar ddechrau'r diwrnod, mae'r sesiwn yn darparu persbectifau newydd ac yn adeiladu ar y cryfderau sy'n bodoli eisoes er mwyn datblygu technegau newydd sy'n ehangu strategaethau meithrin cydberthnasoedd. Drwy gydol y dydd, byddwn yn cynllunio camau penodol a mesuradwy er mwyn annog pobl i'w defnyddio yn y gwaith ac i ddatblygu amrywiaeth eang o sgiliau dylanwadu. Hyfforddwr Bernadette Callanan, Accelerate UK Cofrestru Gallwch gadw lle ar y cwrs drwy ddefnyddio ein tudalen gofrestru, EventBrite. Os bydd eich amgylchiadau'n newid ac na allwch ddod, rhowch wybod i Seaneen cyn gynted ag y bo modd er mwyn inni allu rhoi eich lle i rywun sydd ar y rhestr aros. Seaneen McGrogan Cynorthwy-ydd Casgliadau, Safonau a Datblygu'r Gweithlu Collections, Standards and Workforce Development Assistant CyMAL: Amgueddfeydd Archifau a Llyfrgelloedd Cymru CyMAL: Museums Archives and Libraries Wales Llywodraeth Cymru Welsh Government Rhodfa Padarn Llanbadarn Fawr Aberystwyth Ceredigion SY23 3UR Ffon/Tel 0300 062 2261. www.cymru.gov.uk/cymal www.wales.gov.uk/cymal