Ie, yn ôl Rhiannon Ifans, yn Y Golygiadur, The Times a The Economist yw'r unig ddau bapur newydd sy'n mynnu cael y "The" yn eu teitlau.SiânOn 2013 Awst 27, at 4:52 PM, anna gruffydd wrote:Ma gin i chwilan yn fy mhen am deitla a'r fannod ar ol cael fy nwrdio bob amsar i ddefnyddio'r fannod os dio'n rhan o'r enw, e.e. The Times, yr Observer. Ond mi faswn i'n berffaith fodlon newid fy mholisi os mai dyna'r teimlad at ei gilydd (a hefyd o gofio sylwada dro'n ol am broblema pan fo 'i' neu 'o' o flaen Y mewn teitl, dwi'n meddwl mai Helen ddeudodd mai'r arfer yn Ffrangeg ac Eidaleg ydi gwneud y fannod yn rhan o iaith y testun a'i hepgor yn y teitl). Always ready to oblige...Anna
2013/8/27 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>
Dwi'n hoffi'r ffordd mae grwp Siân Roberts wedi tyfu o driawd i bedwarawd yn ystod y neges.A dwi'n meddwl mai sgwennu am y Beatles fyddai rhywun, ddim am The Beatles.----- Original Message -----From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">anna gruffyddTo: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">[log in to unmask]Sent: Sunday, August 25, 2013 10:21 PMSubject: Re: teitl / disgrifiadYr egwyddor y bydda i'n trio'i ddilyn ydi - Os ydi'r The yn rhan o'r teitl (e.e. The Beatles) mae o'n aros yn Saesneg, fel arall yn Gymraeg fydd o. Ond mae'n anodd gan fod cymaint o anghysondeb o ran enwa. Sori - dim lot o help. Ac ella nad oes ots???? Os dyn nhw mor anghyson, pam ddyliaen ni falio'r un ffadan?Anna
2013/8/25 Sian Roberts <[log in to unmask]>
Rwy'n gwybod bod lot o drafod wedi bod ar hyn o'r blaen ond dwi ddim yn meddwl ein bod wedi dod i gasgliad pendant - os oes modd dod i gasgliad pendant.Rwy wedi dechrau darn trwy gyfieithu pethau fel "the Siân Roberts Trio" a "the John Jones Quartet" - mae'r rhain yn grwpiau lled enwog yn eu maes yn Lloegr/America.Ond wedyn mae rhyw amrywiadau'n codi fel "the David Davies Electric Quartet" a "the Hugh Hughes Big Band" - dw i ddim mor hyderus am gyfieithu'r rhain - maen nhw fel petaen nhw'n croesi"r ffin rhwng disgrifiad a theitl.Ond os nad ydw i'n cyfieithu'r rhain, mae'n siŵr y dylwn i adael y teitlau i gyd yn Saesneg - achos enwau yw'r rheiny hefyd, yn y bôn.Os gadael yn Saesneg, beth ddylid ei wneud â'r "the"?Mae'n aelod o The Siân Roberts Quartet / Mae'n aelod o'r Siân Roberts Quartet ?DiolchSiânNo virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2012.0.2242 / Virus Database: 3211/6112 - Release Date: 08/27/13