Felly, oes gan bapura'r hawl hwnnw, ond nid grwpiau pop? Pa un sydd ora? 'a The Beatles' neu a 'The Animals' ta 'a'r Beatles' ac 'a'r Animals'? Does na'r naill na'r llall yn edrach yn iawn i mi... Anna 2013/8/27 Sian Roberts <[log in to unmask]> > Ie, yn ôl Rhiannon Ifans, yn *Y Golygiadur*, *The Times* a *The Economist > *yw'r unig ddau bapur newydd sy'n mynnu cael y "The" yn eu teitlau. > > Siân > > On 2013 Awst 27, at 4:52 PM, anna gruffydd wrote: > > Ma gin i chwilan yn fy mhen am deitla a'r fannod ar ol cael fy nwrdio bob > amsar i ddefnyddio'r fannod os dio'n rhan o'r enw, e.e. The Times, yr > Observer. Ond mi faswn i'n berffaith fodlon newid fy mholisi os mai dyna'r > teimlad at ei gilydd (a hefyd o gofio sylwada dro'n ol am broblema pan fo > 'i' neu 'o' o flaen Y mewn teitl, dwi'n meddwl mai Helen ddeudodd mai'r > arfer yn Ffrangeg ac Eidaleg ydi gwneud y fannod yn rhan o iaith y testun > a'i hepgor yn y teitl). Always ready to oblige... > > Anna > > > 2013/8/27 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]> > >> ** >> Dwi'n hoffi'r ffordd mae grwp Siân Roberts wedi tyfu o driawd i bedwarawd >> yn ystod y neges. >> >> A dwi'n meddwl mai sgwennu am y Beatles fyddai rhywun, ddim am The >> Beatles. >> >> ----- Original Message ----- >> *From:* anna gruffydd <[log in to unmask]> >> *To:* [log in to unmask] >> *Sent:* Sunday, August 25, 2013 10:21 PM >> *Subject:* Re: teitl / disgrifiad >> >> Yr egwyddor y bydda i'n trio'i ddilyn ydi - Os ydi'r The yn rhan o'r >> teitl (e.e. The Beatles) mae o'n aros yn Saesneg, fel arall yn Gymraeg fydd >> o. Ond mae'n anodd gan fod cymaint o anghysondeb o ran enwa. Sori - dim lot >> o help. Ac ella nad oes ots???? Os dyn nhw mor anghyson, pam ddyliaen ni >> falio'r un ffadan? >> >> Anna >> >> >> 2013/8/25 Sian Roberts <[log in to unmask]> >> >>> Rwy'n gwybod bod lot o drafod wedi bod ar hyn o'r blaen ond dwi ddim yn >>> meddwl ein bod wedi dod i gasgliad pendant - os oes modd dod i gasgliad >>> pendant. >>> >>> Rwy wedi dechrau darn trwy gyfieithu pethau fel "the Siân Roberts Trio" >>> a "the John Jones Quartet" - mae'r rhain yn grwpiau lled enwog yn eu maes >>> yn Lloegr/America. >>> Ond wedyn mae rhyw amrywiadau'n codi fel "the David Davies Electric >>> Quartet" a "the Hugh Hughes Big Band" - dw i ddim mor hyderus am >>> gyfieithu'r rhain - maen nhw fel petaen nhw'n croesi"r ffin rhwng >>> disgrifiad a theitl. >>> >>> Ond os nad ydw i'n cyfieithu'r rhain, mae'n siŵr y dylwn i adael y >>> teitlau i gyd yn Saesneg - achos enwau yw'r rheiny hefyd, yn y bôn. >>> >>> Os gadael yn Saesneg, beth ddylid ei wneud â'r "the"? >>> Mae'n aelod o The Siân Roberts Quartet / Mae'n aelod o'r Siân Roberts >>> Quartet ? >>> >>> >>> Diolch >>> >>> Siân >>> >> >> No virus found in this message. >> Checked by AVG - www.avg.com >> Version: 2012.0.2242 / Virus Database: 3211/6112 - Release Date: 08/27/13 >> >> > >