----- Original Message -----From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">anna gruffyddTo: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]Sent: Sunday, August 25, 2013 10:21 PMSubject: Re: teitl / disgrifiadYr egwyddor y bydda i'n trio'i ddilyn ydi - Os ydi'r The yn rhan o'r teitl (e.e. The Beatles) mae o'n aros yn Saesneg, fel arall yn Gymraeg fydd o. Ond mae'n anodd gan fod cymaint o anghysondeb o ran enwa. Sori - dim lot o help. Ac ella nad oes ots???? Os dyn nhw mor anghyson, pam ddyliaen ni falio'r un ffadan?Anna
2013/8/25 Sian Roberts <[log in to unmask]>
Rwy'n gwybod bod lot o drafod wedi bod ar hyn o'r blaen ond dwi ddim yn meddwl ein bod wedi dod i gasgliad pendant - os oes modd dod i gasgliad pendant.Rwy wedi dechrau darn trwy gyfieithu pethau fel "the Siân Roberts Trio" a "the John Jones Quartet" - mae'r rhain yn grwpiau lled enwog yn eu maes yn Lloegr/America.Ond wedyn mae rhyw amrywiadau'n codi fel "the David Davies Electric Quartet" a "the Hugh Hughes Big Band" - dw i ddim mor hyderus am gyfieithu'r rhain - maen nhw fel petaen nhw'n croesi"r ffin rhwng disgrifiad a theitl.Ond os nad ydw i'n cyfieithu'r rhain, mae'n siŵr y dylwn i adael y teitlau i gyd yn Saesneg - achos enwau yw'r rheiny hefyd, yn y bôn.Os gadael yn Saesneg, beth ddylid ei wneud â'r "the"?Mae'n aelod o The Siân Roberts Quartet / Mae'n aelod o'r Siân Roberts Quartet ?DiolchSiânNo virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2012.0.2242 / Virus Database: 3211/6112 - Release Date: 08/27/13