Rwy'n gwybod bod lot o drafod wedi bod ar hyn o'r blaen ond dwi ddim yn meddwl ein bod wedi dod i gasgliad pendant - os oes modd dod i gasgliad pendant.Rwy wedi dechrau darn trwy gyfieithu pethau fel "the Siân Roberts Trio" a "the John Jones Quartet" - mae'r rhain yn grwpiau lled enwog yn eu maes yn Lloegr/America.Ond wedyn mae rhyw amrywiadau'n codi fel "the David Davies Electric Quartet" a "the Hugh Hughes Big Band" - dw i ddim mor hyderus am gyfieithu'r rhain - maen nhw fel petaen nhw'n croesi"r ffin rhwng disgrifiad a theitl.Ond os nad ydw i'n cyfieithu'r rhain, mae'n siŵr y dylwn i adael y teitlau i gyd yn Saesneg - achos enwau yw'r rheiny hefyd, yn y bôn.Os gadael yn Saesneg, beth ddylid ei wneud â'r "the"?Mae'n aelod o The Siân Roberts Quartet / Mae'n aelod o'r Siân Roberts Quartet ?DiolchSiân