Yr egwyddor y bydda i'n trio'i ddilyn ydi - Os ydi'r The yn rhan o'r teitl (e.e. The Beatles) mae o'n aros yn Saesneg, fel arall yn Gymraeg fydd o. Ond mae'n anodd gan fod cymaint o anghysondeb o ran enwa. Sori - dim lot o help. Ac ella nad oes ots???? Os dyn nhw mor anghyson, pam ddyliaen ni falio'r un ffadan? Anna 2013/8/25 Sian Roberts <[log in to unmask]> > Rwy'n gwybod bod lot o drafod wedi bod ar hyn o'r blaen ond dwi ddim yn > meddwl ein bod wedi dod i gasgliad pendant - os oes modd dod i gasgliad > pendant. > > Rwy wedi dechrau darn trwy gyfieithu pethau fel "the Siân Roberts Trio" a > "the John Jones Quartet" - mae'r rhain yn grwpiau lled enwog yn eu maes yn > Lloegr/America. > Ond wedyn mae rhyw amrywiadau'n codi fel "the David Davies Electric > Quartet" a "the Hugh Hughes Big Band" - dw i ddim mor hyderus am > gyfieithu'r rhain - maen nhw fel petaen nhw'n croesi"r ffin rhwng > disgrifiad a theitl. > > Ond os nad ydw i'n cyfieithu'r rhain, mae'n siŵr y dylwn i adael y teitlau > i gyd yn Saesneg - achos enwau yw'r rheiny hefyd, yn y bôn. > > Os gadael yn Saesneg, beth ddylid ei wneud â'r "the"? > Mae'n aelod o The Siân Roberts Quartet / Mae'n aelod o'r Siân Roberts > Quartet ? > > > Diolch > > Siân >