Ers blynyddoedd 'rwyf wedi cydweithio efo clerc cofnodion, nad yw ei hun bob amser yn awdur y cofnodion y mae'n eu hanfon ataf. Felly byddaf yn cynnig cywiriadau i'r cofnodion gwreiddiol, yn ogystal a chyfieithiad, ac y bydd o, hefyd, weithiau'n codi llithriadau ohonynt, neu o'm cyfieithiad innau. 'Roedd y cofnodion y tro hwn yn arbennig o wallus, ac er imi nodi sawl peth, 'roedd o wedi sylwi ar ragor. Ysgrifennais i'w longyfarch:
"Diolch, (enw). Diolch byth am eich pen chithau yn ogystal a'm mhen innau
- 'dych chi wedi sylwi ar sawl peth na sylwais i arno.
"Mae 'na ryw hanner dwsin o bethau bach yn yr ail ffeil 'ma, ac wedyn
'dyn ni wedi gorffen.
"Rhaid imi bisio i lawr i'r dref rwan i gael ffurflen pasport; wedi
darganfod bod yr un presennol yn darfod yng nghanol ein gwyliau nesaf!"
Gallwch ddychmygu na adawodd i'r neges uchod fynd heb sylw.
Ann