Print

Print


Diolch Dai - mi fum innau'n chwilio ar google streetview hefyd!
 
Ac mae GyA yn rhoi Môr Iwerydd ond hefyd Yr Iwerydd, felly roedd y dryswch yn parhau. Ac mae gen i ryw bum rhestr o enwau strydoedd Caerdydd, ond dim help yn fanno.
 
A Term Cymru'n rhoi Glanfa'r Iwerydd ond Cyngor Caerdydd (gydag ambell eithriad) yn rhoi Glanfa Iwerydd.
 
Wrth Gwglo gwelir bod 38,500 enghraifft o Glanfa Iwerydd (er mai mewn testun Saesneg mae'r rhan fwya ar y dudalen gynta) ac 8,590 o Glanfa'r Iwerydd (testun Cymraeg gan mwyaf)
 
Does gen i ddim barn gryf un ffordd na'r llall felly mi â'i am Lanfa Iwerydd heb y fannod dwi'n meddwl, dim ond am ei fod yn edrych yn daclusach!!
 
Geraint
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">David Bullock
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Tuesday, August 20, 2013 10:39 PM
Subject: Re: Atlantic Wharf

Glanfa Iwerydd sy ar wefan Cyngor Caerdydd - ar waelod pob tudalen yn eu cyfeiriad post nhw.

 

Glanfa Iwerydd hefyd oedden ni'n arfer ei ddefnyddio yn bell bell yn ôl yn y Swyddfa Gymreig pan ddechreuodd yr holl ddatblygu ym Mae Caerdydd dan aden Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd.

 

Ond cerwch ar google streetview ac fe welwch chi mai arwyddion ffyrdd uniaith Saesneg sydd ar y stryd ei hunan.

 

A does dim sôn am Atlantic Wharf fel enw'r stryd yn rhestr strydoedd Cyngor Caerdydd, dim ond fel enw Saesneg ar ardal - fel y gwelwch chi os gallwch chi agor y ffeil Excel yma.

 

Môr Iwerydd sydd yn Geiriadur yr Academi (a Coleg Iwerydd hefyd am Atlantic College), Cefnfor Iwerydd yw Atlantic Ocean yn yr Atlas Cymraeg, bob un heb fannod.

 

Felly Glanfa Iwerydd (heb fannod) fyddai'n naturiol wedyn... ifa?

 

 

Cwmni DB Cyf.

Rhif y Cwmni: 04990174

Rhif TAW: 987 2849 49

Swyddfa Gofrestredig: 62 Waterloo Road, Pen-y-lan, Caerdydd CF23 9BH

Twitter: @CwmniDB

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd
Sent: 20 Awst 2013 13:27
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Atlantic Wharf

 

Dwi'n drysu hefyd - achos ar TermCymru mae'n deud Glanfa'r Iwerydd, ond does yna ddim rhyw boitsh, dwad, ynghylch rwbath arall sydd a'i wnelo a Glanfa'r Iwerydd ne rwbath felly? Dwi'n cofio bod mewn penbleth ynghylch pa un ddylia fo fod...

Anna

 

2013/8/20 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>

Dwi'n dechrau drysu -

 

Pa un sy'n gywir - Glanfa Iwerydd ta Glanfa'r Iwerydd?

 


No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2012.0.2242 / Virus Database: 3211/6095 - Release Date: 08/21/13