Sian Diolch am y sylwadau ac rydych yn codi cwestiynau dilys iawn, ie, paham 'llystad' yn hytrach na 'thad llys' - pwy a wyr ond llystad sydd gennym yn y Gymraeg - bydd rhaid inni aros am ymateb y geiriadurwyr (yfory gobeithio os byddan nhw'n ymateb!) Muiris 2013/8/21 Sian Jones <[log in to unmask]> > Mae hynny'n ddiddorol, ond onid 'tad maeth' oedd y term am ddyn oedd yn > gwneud hynny - e.e. yn un o gerddi'r Gogynfeirdd y ces hyd iddo ar y we - > Tad mad magawd gwawd gway Avrudd Tad maeth myged Maredudd Maredudd > gardd.... > > ac fe sonid am frodyr maeth e.e. ar Wici, eitem am y bardd Peryf ap > Cedifor... > > > Lladdwyd Hywel ab Owain Gwynedd a'i frodyr maeth ym mrwydr Pentraeth<http://cy.wikipedia.org/wiki/Pentraeth> > , Môn <http://cy.wikipedia.org/wiki/M%C3%B4n>, yn erbyn Dafydd ab Owain > Gwynedd <http://cy.wikipedia.org/wiki/Dafydd_ab_Owain_Gwynedd> a'i frawd > Rhodri <http://cy.wikipedia.org/wiki/Rhodri_ab_Owain_Gwynedd> yn > 1170...... > > > Os oedd y term wedi hen ennill ei blwy erbyn y 12fed ganrif, a fyddai term > arall 'llysdad' yn bodoli am yr un peth sgwn i? Ac os oedd, pam nad 'tad > llys' fyddai'r term, ar yr un patrwm â 'tad maeth'? > > > Sian > > > ------------------------------ > Date: Wed, 21 Aug 2013 00:00:19 +0100 > From: [log in to unmask] > > Subject: Re: Stepmother > To: [log in to unmask] > > Mae gennyf i ddamcaniaeth (rhaid pwysleisio'r gair 'damcaniaeth' yma) am > darddiad 'llystad' a 'llysfam' (a gallaf i fod yn anghywir). Yn Iwerddon > a’r Alban, ac rwy'n cymryd bod yr un peth yn wir yng Nghymru, roedd yn > draddodiad i blant gael eu trosglwyddo rhwng teuluoedd i gael eu magu gan > bobl eraill (rhywbeth roedd yr uchelwyr yn ei wneud, nid y werin bobl). > Pwrpas y traddodiad hwn oedd creu cysylltiadau cryf rhwng gwahanol > deuluoedd, a thrwy hynny greu cynghreiriau cryf gyda'r llwythau ac uchelwyr > cyfagos, ac felly osgoi rhyfeloedd neu sicrhau y gallech alw am gymorth > eich 'teulu' arall pe bai rhyfel. > > Rwy'n cymryd y byddai'r uchelwyr hyn wedi cyfeirio at eu cartref fel > 'llysoedd' (hyd yn oed os oeddent yn gartrefi digon di-nod) ac felly mai > 'llysdad' a 'llysfam' fyddai'r rhieni oedd yn eich magu (am gyfnod o > leiaf), sef eich 'rhieni yn y llys'. > > > > Gallaf, wrth gwrs, fod yn hollol anghywir yn y ddamcaniaeth hon ac rwyf > heb wneud unrhyw ymchwil iddi, ac eithrio edrych ar y rhyngrwyd a dyma > ffrwyth yr ymchwil hwnnw: > > > > http://www.merriam-webster.com/dictionary/fosterage > > ": a custom once prevalent in Ireland, Wales, and Scotland of entrusting > one's child to foster <http://www.merriam-webster.com/dictionary/foster> parents > to be brought up" (fe welwch yma fod y traddodiad yn gyffredin yng Nghymru > yn ol y geiriadur hwn). > > *www.flint.umich.edu/~ellisjs/fosterage.doc -* trafodaeth gynhwysfawr > (yn fy nhyb i) am y dystiolaeth o ‘faethu’ yng Nghymru. > > > Byddai’n ddiddorol clywed ymateb pobl eraill, (yn enwedig Tim, sy'n siarad > Gwyddeleg, a staff Geiriadur Prifysgol Cymru!) > > Gyda llaw, pam 'llystad' yng Nghysgeir (a Geiriadur Prifysgol Cymru'n rhoi > 'Llysdad gweler Llystad') ond 'Llysdeulu' (stepfamily) yng Nghysgeir, oni > ddylai fod yn 'llysteulu'? > > Muiris > > > > 2013/8/20 anna gruffydd <[log in to unmask]> > > Mi fydd na rywun, siawns, naill ai'n well na ni ar y gem chwilio ar y we, > neu'n gwbod yn well na ni be di'r tarddiad....mi arhoswn ni! a gadal iddyn > nhw wneud y gwaith! > > Anna > > > 2013/8/20 Sian Jones <[log in to unmask]> > > Na, methu dod o hyd i unrhyw beth ar y we. > Sian > > ------------------------------ > Date: Tue, 20 Aug 2013 19:00:08 +0200 > From: [log in to unmask] > Subject: Re: Stepmother > To: [log in to unmask] > > > Ia, be ydi tarddiad mam wen a llystad/llysfam? Dwi'm yn mynd i chwilio > achos go brin baswn i'n dod o hyd i unrhyw beth. > > Anna > > > 2013/8/20 Sian Jones <[log in to unmask]> > > Falle bod tarddiad diddorol i 'llys' a 'gwyn' hefyd. Mae 'gwyn' yn fy > atgoffa o 'cu' yn 'Tadcu' - i.e. annwyl. Dyna air dipyn mwy llawen na > 'bereaved' ! > > ------------------------------ > Date: Tue, 20 Aug 2013 18:27:05 +0200 > From: [log in to unmask] > Subject: Re: Stepmother > To: [log in to unmask] > > I ddod yn o^l at y rheini cam (ceimion?) - dyma ffrwyth fy ymchwil:- > > The earliest recorded use of the prefix *step-*, in the form *steop-*, is > from an 8th-century glossary <http://en.wikipedia.org/wiki/Glossary> of > Latin <http://en.wikipedia.org/wiki/Latin>-Old English<http://en.wikipedia.org/wiki/Old_English>words. > *Steopsunu* is given for the Latin word *filiaster* and *steopmoder* for * > nouerca*. Similar words recorded later in Old English include *stepbairn*, > *stepchild* and *stepfather*. The words are used to denote a connection > resulting from the remarriage of a widowed parent and are related to the > word *ástíeped* meaning bereaved, with *stepbairn* and *stepchild*occasionally used simply as > synonyms <http://en.wikipedia.org/wiki/Synonym> for *orphan*. Words such > as *stepbrother*, *stepniece* and *stepparent* appeared much later and do > not have any particular connotation of bereavement. Corresponding words in > other Germanic languages <http://en.wikipedia.org/wiki/Germanic_language>include: Old > High German <http://en.wikipedia.org/wiki/Old_High_German> *stiuf-* and Old > Norse <http://en.wikipedia.org/wiki/Old_Norse> *stjúp-*.[12]<http://en.wikipedia.org/wiki/Stepfamily#cite_note-12> > > > 2013/8/20 Sioned Graham-Cameron <[log in to unmask]> > > Roeddet ti'n iawn Sian - bysus oeddan' nhw! Arwydd maes parcio neu rywbeth > oedd o. Dwi'n yn egluro fy hun yn dda iawn pnawn ma - amser gneud cinio > dwi'n meddwl! > > Sioned > > > On 20 Aug 2013, at 17:14, Sian Jones wrote: > > o ni'n meddwl am funud mai bysus oedd ganddyn nhw mewn golwg wrth sôn am > 'coaches' - tydi iaith yn grêt :-) > > > ------------------------------ > Date: Tue, 20 Aug 2013 17:08:49 +0100 > From: [log in to unmask] > Subject: Re: Stepmother > To: [log in to unmask] > > Gwên (!) lawer mwy llydan rwan, Anna. > > Roeddwn yn meddwl, wrth ddarllen neges Sian, am arwydd welais ar Twitter > yn gynharach yn yr wythnos, oedd yn dweud 'No access for coaches', oedd > wedi ei gyfieithu 'Dim mynediad i hyfforddw yr', efo bwlch cyn yr 'yr' ar > ddiwedd y gair. Rhaid bod rhywun wedi dweud rhywbeth, achos roedd wedi ei > gywiro wedyn i 'Dim mynediad i hyfforddwyr' gan ddileu'r bwlch. > > O leia cafodd Sian gais i gadarnhau cywirdeb ai peidio! > > Sioned > > > > On 20 Aug 2013, at 17:06, anna gruffydd wrote: > > Dwi di gneud iawn am fy nhwpdra lly?! Weithia does na ddim ffordd arall o > ddeud rwbath, nacoes - roedd na foi fydda'n dwad i'r coleg i ddysgu jyglo a > rhyw ddiwrnod roedd arna i isio menthyg ei 'offer' at rywbeth - a be allwn > i'i ddeud blaw 'Pete, could I borrow your balls?'? Dro arall ma ar rywun > angan sgriwsan a be all rhywun ddeud ond 'I need a screw.'? > > Anna > > > 2013/8/20 Sioned Graham-Cameron <[log in to unmask]> > > Haha! Licio honna! > > > On 20 Aug 2013, at 16:59, anna gruffydd wrote: > > Dwi di drysu'n llwyr yndo, ddaru mi ddim dallt y jo^c am y tad cam, fel > dwi mwya gwirion. Doh!!!!!! Ond rwan mod i wedi ei ddallt, es i ag ysgol > blygu i dy^ ffrind i mi yn Ynysoedd Heledd i'w helpu i neud rhywbeth ac > medda hi, 'Those are very good steps [jyst steps maen nhw'n galw stepladder > yn fan'no].' 'Yes,' me fi, 'my stepfather gave them to me.' > > Sori mod i wedi bod mor dwp yn y lle cynta, gobeithio y gwneith hyn iawn > am hynny!! > > Anna > > > 2013/8/20 Sioned Graham-Cameron <[log in to unmask]> > > Sori Anna - gwen lydan oedd gen i o ddarllen neges Sian - cymryd bod > rhywun wedi edrych am y gair am 'mother' ac wedi cael 'mam' ac yna edrych > am 'step' a chael 'cam' - cymryd cam, ond hefyd rhywbeth sy'n gam, a bod > Mam a Thad Cam wedi ei chosi... > > Sioned > > (Meirionnydd ydi fan'ma, gyda llaw!) > > > > > On 20 Aug 2013, at 16:11, anna gruffydd wrote: > > Ond o ran diddordeb, o ba ardaloedd mae Mam Gam a Gwen Lydan yn dwad? > > Anna > > > 2013/8/20 Sian Jones <[log in to unmask]> > > Wps fi sydd wedi ateb un neges efo neges ar drywydd gwahanol mae'n debyg - > sori ! > Sian > > ------------------------------ > Date: Tue, 20 Aug 2013 16:21:44 +0200 > From: [log in to unmask] > Subject: Re: Stepmother > To: [log in to unmask] > > Lle di 'fam'ma'? A sut gebyst mae'r gainc yma'n ymddangos o dan ymholiad > Geraint ynghylch Atlantic Wharf??? > > Anna > > > 2013/8/20 Sioned Graham-Cameron<[log in to unmask]> > > Gwen lydan yn fan'ma! > > Sioned > > > On 20 Aug 2013, at 15:15, Sian Jones wrote: > > Rhywbeth i ysgafnhau'r pnawn - newydd gael neges yn gofyn ydy'r isod yn > gywir: > > Stepmother = Mam Cam; Stepfather = Tad Cam > > Gwych :-) > > (Mam Gam fyddai hi siwr) > > Sian > ------------------------------ > Date: Tue, 20 Aug 2013 14:27:26 +0200 > From: [log in to unmask] > Subject: Re: Atlantic Wharf > To: [log in to unmask] > > Dwi'n drysu hefyd - achos ar TermCymru mae'n deud Glanfa'r Iwerydd, ond > does yna ddim rhyw boitsh, dwad, ynghylch rwbath arall sydd a'i wnelo a > Glanfa'r Iwerydd ne rwbath felly? Dwi'n cofio bod mewn penbleth ynghylch pa > un ddylia fo fod... > > Anna > > > 2013/8/20 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]> > > ** > Dwi'n dechrau drysu - > > Pa un sy'n gywir - Glanfa Iwerydd ta Glanfa'r Iwerydd? > > > > > > >