Print

Print


Dwi newydd roi “Nid argymhellir...” mewn dogfen am feddyginiaeth.  Ond dywed sawl un bod hynny’n edrych yn rhyfedd, ac mai “Ni argymhellir...” y byddan nhw’n ei roi.

 

Mae Peter Wynn Thomas yn nodi mai “nid” yw ffurf y negydd cyn llafariad, gan roi’r enghraifft “Nid anafwyd neb”. 

 

Ceir enghreifftiau o “nid argymhellir” ac o “ni argymhellir” ar y we, ac mae Cysill yn fodlon ar y ddau.

 

Wedi drysu’n llwyr.  Beth yw barn y Cylch?

 

Claire

 

Mae Pennawd Cyf yn gwmni cyfyngedig wedi'i gofrestru yng Nghymru a Lloegr o dan y rhif cofrestru 4276774, a chyfeiriad y swyddfa gofrestredig yw 46A Heol Merthyr, yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 1DJ.

 

Pennawd Cyf is a limited company registered in England and Wales under the number 4276774, and the address of the registered office is 46A Merthyr Road, Whitchurch, Cardiff, CF14 1DJ.