Print

Print


Pan welais i bwnc y neges gyntaf ro’wn i’n cofio am ymadrodd byddai Mam yn ei ddefnyddio “put the fluence on him / her”. Dyna yw ystyr 2 yng Ngeiriadur Rhydychen, sef “to put the fluence on (a person), to apply mysterious, magical, or hypnotic power to (a person)”.  

 

Yr ystyr gyntaf yng Ngeiriadur Rhydychen yw “a flowing, a stream”.

 

Efallai bydd yn rhaid bathu gair gyda’r elfen “llif” ynddo, os nad oes un yn bod eisoes. Oes ’na rywun sy’n ymdrin â ffiseg trwy gyfrwng y Gymraeg y gellir ymgynghori ag ef / â hi?

 

Claire

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Dafydd Timothy
Sent: 20 August 2013 17:59
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Fluence

 

Yn hollol - wedi edrych ar Wikipedia ... mae'n ymddangos ei fod ynghyd-destun ffiseg, sef:
'In physics <http://en.wikipedia.org/wiki/Physics> , fluence is the flux <http://en.wikipedia.org/wiki/Flux>  (either particle or radiative flux <http://en.wikipedia.org/wiki/Radiative_flux> ) integrated over time. For particles, it is defined as the total number of particles that intersect a unit area in a specific time interval of interest, and has units of m–2 (number of particles per meter squared). Fluence can also be used to describe the energy delivered per unit area, in which case it has units of J/m2. It is considered one of the fundamental units in dosimetry <http://en.wikipedia.org/wiki/Dosimetry> .'

Dwi'n cyfieithu cyfarwyddiadau trin gwallt (!) ac mae hyn yn ymwneud â'r cyfarpar golau dwys a laser a ddefnyddir i leihau tyfiant!

  20/08/2013 17:54, Cyfieithydd Achlysurol wrote:

	Beth yw ei ystyr yn Saesneg?  Dim byd i wneud â dylanwad, digwydd? 

	On Aug 20, 2013 5:46 PM, "Dafydd Timothy" <[log in to unmask]> wrote:
	>
	> Be fase'ch cynnig am y gair 'fluence'?
	>
	> Mae hyn ynghyd-destun newidynnau (variables) eraill megis tonfeddi, pwls, egni, pŵer ayyb.
	>
	> Wedi methu gweld unrhyw beth ar ein gwefannau ... hyd yn hyn.
	>
	> Diolch fel yr arfer.
	>
	> Dafydd