One place left. Last chance, book now to avoid disappointment
Hanes Llafar
09 Awst 2013 - Amgueddfa Llangollen
Mae’r cwrs hwn yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n agored i staff a gwirfoddolwyr sy’n gweithio mewn amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd yng Nghymru.
Mae’r cwrs yn addas ar gyfer pobl sy’n gweithio mewn amgueddfeydd / archifdai / llyfrgelloedd a gwirfoddolwyr sydd:
o Yn meddwl am gynnal / bod yn rhan o brosiect hanes llafar
o Yn delio â chasgliadau hanes llafar
Nod
Nod y cwrs hwn yw archwilio ffyrdd o gynnal a recordio cyfweliadau hanes llafar. Bydd hyn yn cynnwys trin gwahanol fathau o offer i’w defnyddio.
Erbyn diwedd y cwrs bydd yr aelodau:
o Wedi cael cyflwyniad anffurfiol ac ymarferol i gyfweliadau hanes llafar
o Wedi cael cyfle i ymgyfarwyddo â’r offer recordio a thrafod rhai o’r ystyriaethau sy’n gysylltiedig â hanes llafar, straeon bywyd a chof.
Y Dulliau Hyfforddi
o Cyflwyniad clyweled
o Gwaith ymarferol
o Trafodaeth grŵp
Y paratoi
Os oes gan y rheini sy’n dod ar y cwrs eisoes offer recordio y bwriadant ei ddefnyddio, mae croeso iddynt ddod ag ef i’r cwrs, yn ddelfrydol gyda’r cyfarwyddiadau ar sut i’w ddefnyddio.
Yr hyfforddwr: Beth Thomas
Ceidwad Hanes Cymdeithasol a Diwylliannol yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Is-gadeirydd, Cynrychiolydd Rhwydwaith Rhanbarthol y Gymdeithas Hanes Llafar; hyfforddwr achrededig i’r Gymdeithas Hanes Llafar/Llyfrgell Brydeinig.
Cofrestru
Gallwch archebu lle ar y cwrs hwn drwy ddefnyddio ein tudalen gofrestru Eventbrite - http://www.eventbrite.co.uk/event/6766052445
Seaneen McGrogan
Cynorthwy-ydd Casgliadau, Safonau a Datblygu'r Gweithlu
Collections, Standards and Workforce Development Assistant
CyMAL: Amgueddfeydd Archifau a Llyfrgelloedd Cymru
CyMAL: Museums Archives and Libraries Wales
Llywodraeth Cymru
Welsh Government
Rhodfa Padarn
Llanbadarn Fawr
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3UR
Ffon/Tel 0300 062 2261.
www.cymru.gov.uk/cymal
www.wales.gov.uk/cymal