One place left. Last chance, book now to avoid disappointment Hanes Llafar 09 Awst 2013 - Amgueddfa Llangollen Mae’r cwrs hwn yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n agored i staff a gwirfoddolwyr sy’n gweithio mewn amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd yng Nghymru. Mae’r cwrs yn addas ar gyfer pobl sy’n gweithio mewn amgueddfeydd / archifdai / llyfrgelloedd a gwirfoddolwyr sydd: o Yn meddwl am gynnal / bod yn rhan o brosiect hanes llafar o Yn delio â chasgliadau hanes llafar Nod Nod y cwrs hwn yw archwilio ffyrdd o gynnal a recordio cyfweliadau hanes llafar. Bydd hyn yn cynnwys trin gwahanol fathau o offer i’w defnyddio. Erbyn diwedd y cwrs bydd yr aelodau: o Wedi cael cyflwyniad anffurfiol ac ymarferol i gyfweliadau hanes llafar o Wedi cael cyfle i ymgyfarwyddo â’r offer recordio a thrafod rhai o’r ystyriaethau sy’n gysylltiedig â hanes llafar, straeon bywyd a chof. Y Dulliau Hyfforddi o Cyflwyniad clyweled o Gwaith ymarferol o Trafodaeth grŵp Y paratoi Os oes gan y rheini sy’n dod ar y cwrs eisoes offer recordio y bwriadant ei ddefnyddio, mae croeso iddynt ddod ag ef i’r cwrs, yn ddelfrydol gyda’r cyfarwyddiadau ar sut i’w ddefnyddio. Yr hyfforddwr: Beth Thomas Ceidwad Hanes Cymdeithasol a Diwylliannol yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Is-gadeirydd, Cynrychiolydd Rhwydwaith Rhanbarthol y Gymdeithas Hanes Llafar; hyfforddwr achrededig i’r Gymdeithas Hanes Llafar/Llyfrgell Brydeinig. Cofrestru Gallwch archebu lle ar y cwrs hwn drwy ddefnyddio ein tudalen gofrestru Eventbrite - http://www.eventbrite.co.uk/event/6766052445 Seaneen McGrogan Cynorthwy-ydd Casgliadau, Safonau a Datblygu'r Gweithlu Collections, Standards and Workforce Development Assistant CyMAL: Amgueddfeydd Archifau a Llyfrgelloedd Cymru CyMAL: Museums Archives and Libraries Wales Llywodraeth Cymru Welsh Government Rhodfa Padarn Llanbadarn Fawr Aberystwyth Ceredigion SY23 3UR Ffon/Tel 0300 062 2261. www.cymru.gov.uk/cymal www.wales.gov.uk/cymal On leaving the Government Secure Intranet this email was certified virus free. Communications via the GSi may be automatically logged, monitored and/or recorded for legal purposes. Wrth adael Mewnrwyd Ddiogel y Llywodraeth nid oedd unrhyw feirws yn gysylltiedig â’r neges hon. Mae’n ddigon posibl y bydd unrhyw ohebiaeth drwy’r GSi yn cael ei logio, ei monitro a/neu ei chofnodi yn awtomatig am resymau cyfreithiol.