Gweithdai Ymchwil Cynulleidfa a Gwerthuso
Amgueddfa ac Oriel Gelf Brycheiniog – 10-Medi-2013
Castell y Waun – 12-Medi-2013
Mae’r cwrs hwn yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n agored i staff a gwirfoddolwyr sy’n gweithio mewn amgueddfeydd yng Nghymru.
Mae’r cwrs yn addas ar gyfer gweithwyr a gwirfoddolwyr amgueddfeydd sy’n edrych am gyflwyniad i’r gofynion Achredu ar gyfer ymchwil cynulleidfa ac ymgynghori. Bydd y cwrs yn addas hefyd i’r rhai sydd â diddordeb ehangach mewn ymgynghori â chynulleidfaoedd a gwerthuso.
Nod
Erbyn diwedd y cwrs bydd yr aelodau â gwell dealltwriaeth o’r gofyniad Achredu ar gyfer ymchwil cynulleidfa ac ymgynghori a’r hyn sy’n rhaid i’w sefydliad ei wneud i fodloni’r gofynion hyn. Hefyd, bydd y cyfranogwyr yn deall yn well sut i gynllunio ymchwil cynulleidfa a gwerthuso a sut i ganfod pa adnoddau sydd ar gael a sut i’w defnyddio.
Y dulliau hyfforddi
· Cyflwyniadau (PowerPoint)
· Gwaith mewn parau / grwpiau bach ac adborth
· Trafodaeth grŵp mawr
· Taflenni
Y paratoi
· Darllenwch y gofynion achredu 3.1.1 a 3.1.2
· Dewch â manylion ynglŷn â’r hyn rydych chi’n ei gasglu ar hyn o bryd am eich defnyddwyr a rhai nad ydynt yn defnyddio eich gwasanaeth, sut a phryd i’w dangos i weddill y grŵp.
Yr hyfforddwr: Nicky Boyd
Mae Nicky yn ymgynghorydd ymchwil cynulleidfa a gwerthuso sy’n arbenigo ar werthuso ansoddol, technegau a phrosesau, datblygu cynulleidfaoedd ac astudiaethau ymwelwyr. Mae ganddi gefndir mewn casglu tystiolaeth gan ystod eang o gynulleidfaoedd gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau casglu data.
Cofrestru
I gadw lle ar y cwrs, ewch i’n tudalen gofrestru Eventbrite
Amgueddfa ac Oriel Gelf Brycheiniog - http://www.eventbrite.co.uk/event/7311102705/mail
Castell y Waun - http://www.eventbrite.co.uk/event/7311217047/mail
Seaneen McGrogan
Cynorthwy-ydd Casgliadau, Safonau a Datblygu'r Gweithlu
Collections, Standards and Workforce Development Assistant
CyMAL: Amgueddfeydd Archifau a Llyfrgelloedd Cymru
CyMAL: Museums Archives and Libraries Wales
Llywodraeth Cymru
Welsh Government
Rhodfa Padarn
Llanbadarn Fawr
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3UR
Ffon/Tel 0300 062 2261.