A oes modd eu hosgoi - h.y. lle bo'n amlwg be ydyn nhw, cyfeirio atyn nhw fel rhywbeth arall - ond wedi bwrw golwg yn ol ar y neges wreiddiol, nac oes, does dim modd gwneud hynny, gan na sonnir amdanyn nhw fel rhaglenni ne be bynnag ydyn nhw. Os ydyn nhw heb eto ennill eu plwy yn Saesneg, dwi'n meddwl y baswn i'n eu rhoi'n llawn bob tro. Byddaf yn meddwl weithia mae'n siwr ei bod hi'n reit anodd mynd bob yn gam a'r holl wahanol acronymau newydd sydd heb eto ennill eu plwy, heb son am yr hen rai - i ddod nol at y Parcia Cenedlaethol - mae na UK ANPA sef Cymdeithas Awdurdodau Parciau Cenedlaethol y Deyrnas Unedig; wedyn mae na NPA - sef Awdurdod Parc Cenedlaethol - a sawl acronym reit debyg at ei gilydd - dwi'n siwr bod y ddogfen Gymraeg yn haws ei darllen oherwydd defnyddio 'Cymdeithas', 'Awdurdodau' etc etc, yn lle gorfod meddwl bob tro 'tybed pa un ydi hwn?' Dan ni di son am hyn droeon eisoes, mi wn, ond rywsut does dim modd ei ddeud yn rhyw aml. I'r diawl ag acronyma (ar wahan i BBC a phetha felly sydd bellach yn eiria).

Anna


2013/7/9 Gareth Evans Jones <[log in to unmask]>
Dwi wrthi'n cyfieithu darn sy'n cyfeirio at rai o raglenni a strategaethau Llywodraeth Cymru.
 
Cyfeirir at yr acronymau SEP (Strategic Equality Plant) ac EI (Equality and Inclusion) yn rheolaidd yn y ddogfen.
 
Os ydw i wedi deall arddulliadur Gwasanaeth Cyfieithu'r Cynulliad yn iawn, fe ddylid cynnig y cyfieithiad llawn y tro cyntaf â'r acronym mewn cronfachau yn dilyn y term llawn - yna gellir defnyddio'r acronym trwy weddill y ddogfen.
 
Ydy hi'n dderbynion felly i mi ddefnyddio CCS a CC yn lle SEP ac EI? Dwi ddim yn meddwl bod yr acronymau Saesneg wedi ennill eu plwy eto.