Print

Print


Ia, ond di rhywun yn egluro i aeloda'r Parcia Cenedlaethol, er enghraifft, newid enw ac un corff yn mynd yn gorff arall, siawns nad ydi'n fwy dealladwy iddyn nhw (mae'r petha ma'n ddigon cymhleth fel mae hi) gweld yr enw yn Saesneg a medru gwneud ymchwil bellach os dyn nhw isio.

Anna


2013/7/9 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>
Fyswn i yn cyfieithu enw'r Cyngor - nid deddf ydio ond enw corff sy'n digwydd bod wedi ei enwi mewn deddfwriaeth. Petaen ni'n dilyn yr egwyddor yna fyddai neb byth yn cyfieithu'r Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig er enghraifft.
 
Geraint
----- Original Message -----
From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">anna gruffydd
To: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">[log in to unmask]
Sent: Tuesday, July 09, 2013 10:58 AM
Subject: Re: Cyfieithu ai peidio - dyna 'di'r cwestiwn!

Fydda i ddim yn cyfieithu Council for the Protection of Rural England pan fydda i'n gweithio i'r Parcia Cenedlaethol am mai son am ddeddfwriaeth benodol maen nhw, a chyrff yn newid eu henwa. Mae gwobra'n anodd, dwi'n cutuno - yr un yma'n syml ac yn ddisgrifiadol ond pan fydd na betha fel the Super Duper Furry Top-Dogs Category ei adael o yn Saesneg fydda i - ella, fel mor aml, ei bod yn dibynnu ar wahanol amgylchiada a chyd-destun bob tro.

Anna


2013/7/9 Dafydd Timothy <[log in to unmask]>
Be wnewch chi o bethau fel:

The Ted Hughes Prize for New Work in Poetry

ac yn yr un erthygl ...

Council for the Protection of Rural England

Mae'n amlwg fod yn rhaid un ai cyfieithu'r ddau ... neu gadael y ddau, ac mae rhywbeth yn taro'n chwithig i mi pa bynnag ffordd yr āf i !!

Diolch am unrhyw fewnbwn ystyriol,

Dafydd

No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2012.0.2242 / Virus Database: 3204/5975 - Release Date: 07/08/13