Eitha gwir. Wela i ddim gwrthwynebiad i ddefnyddio enw neu deitl sydd wedi hen ennill ei blwyf, yn enwedig os yw’r corff dan sylw yn ei arfer hefyd – Corfforaeth Ddarlledu Brydeinig, Dinas ac Urddau Llundain, Undeb Ewropeaidd, ayyb.

 

Os yw’r ddogfen â rhyw swyddogaeth gyfreithiol, fe all fod yn syniad da i gynnwys rhyw gymalau bach diffiniol, e.e. ‘Yn y Contract hwn, ystyr ‘Bwrdd Cyllid Esgobaeth Caerfar’ yw’r ‘Barchester Diocesan Board of Finance’ fel y diffinnir hwnnw yn Neddf Esgobaethau a Sefydliadau Cysylltiedig (Darpariaethau Ychwanegol) 1887’.

 

Yn iach,

 

Tim

 


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 09 July 2013 12:22
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Cyfieithu ai peidio - dyna 'di'r cwestiwn!

 

Fyswn i yn cyfieithu enw'r Cyngor - nid deddf ydio ond enw corff sy'n digwydd bod wedi ei enwi mewn deddfwriaeth. Petaen ni'n dilyn yr egwyddor yna fyddai neb byth yn cyfieithu'r Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig er enghraifft.

 

Geraint

----- Original Message -----

From: [log in to unmask]">anna gruffydd

Sent: Tuesday, July 09, 2013 10:58 AM

Subject: Re: Cyfieithu ai peidio - dyna 'di'r cwestiwn!

 

Fydda i ddim yn cyfieithu Council for the Protection of Rural England pan fydda i'n gweithio i'r Parcia Cenedlaethol am mai son am ddeddfwriaeth benodol maen nhw, a chyrff yn newid eu henwa. Mae gwobra'n anodd, dwi'n cutuno - yr un yma'n syml ac yn ddisgrifiadol ond pan fydd na betha fel the Super Duper Furry Top-Dogs Category ei adael o yn Saesneg fydda i - ella, fel mor aml, ei bod yn dibynnu ar wahanol amgylchiada a chyd-destun bob tro.

Anna

 

2013/7/9 Dafydd Timothy <[log in to unmask]>

Be wnewch chi o bethau fel:

The Ted Hughes Prize for New Work in Poetry

ac yn yr un erthygl ...

Council for the Protection of Rural England

Mae'n amlwg fod yn rhaid un ai cyfieithu'r ddau ... neu gadael y ddau, ac mae rhywbeth yn taro'n chwithig i mi pa bynnag ffordd yr âf i !!

Diolch am unrhyw fewnbwn ystyriol,

Dafydd

 

No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2012.0.2242 / Virus Database: 3204/5975 - Release Date: 07/08/13


This transmission is intended for the named addressee(s) only and may contain sensitive or protectively marked material up to RESTRICTED and should be handled accordingly. Unless you are the named addressee (or authorised to receive it for the addressee) you may not copy or use it, or disclose it to anyone else. If you have received this transmission in error please notify the sender immediately. All traffic including GCSx may be subject to recording and/or monitoring in accordance with relevant legislation

For the full disclaimer please access http://www.rctcbc.gov.uk/disclaimer

 

Mae'r neges ar gyfer y person(au) a enwyd yn unig a gall gynnwys deunydd sensitif neu ddeunydd sy wedi'i farcio hyd at 'CYFYNGEDIG' a dylid ei thrin yn unol a hynny. Os nad chi yw'r person a enwyd (neu os nad oes gyda chi'r awdurdod i'w derbyn ar ran y person a enwyd) chewch chi ddim ei chopio neu'i defnyddio, neu'i datgelu i berson arall. Os ydych wedi derbyn y neges ar gam a wnewch roi gwybod i'r sawl sy wedi anfon y neges ar unwaith. Mae modd cofnodi a/neu fonitro holl negeseuon GCSX yn unol a'r ddeddfwriaeth berthnasol. 

I weld yr ymwadiad llawn ewch i http://www.rctcbc.gov.uk/ymwadiad