Fydda i ddim yn cyfieithu Council for the Protection of Rural England pan fydda i'n gweithio i'r Parcia Cenedlaethol am mai son am ddeddfwriaeth benodol maen nhw, a chyrff yn newid eu henwa. Mae gwobra'n anodd, dwi'n cutuno - yr un yma'n syml ac yn ddisgrifiadol ond pan fydd na betha fel the Super Duper Furry Top-Dogs Category ei adael o yn Saesneg fydda i - ella, fel mor aml, ei bod yn dibynnu ar wahanol amgylchiada a chyd-destun bob tro.

Anna


2013/7/9 Dafydd Timothy <[log in to unmask]>
Be wnewch chi o bethau fel:

The Ted Hughes Prize for New Work in Poetry

ac yn yr un erthygl ...

Council for the Protection of Rural England

Mae'n amlwg fod yn rhaid un ai cyfieithu'r ddau ... neu gadael y ddau, ac mae rhywbeth yn taro'n chwithig i mi pa bynnag ffordd yr āf i !!

Diolch am unrhyw fewnbwn ystyriol,

Dafydd