Fydda i ddim yn cyfieithu Council for the Protection of Rural England pan fydda i'n gweithio i'r Parcia Cenedlaethol am mai son am ddeddfwriaeth benodol maen nhw, a chyrff yn newid eu henwa. Mae gwobra'n anodd, dwi'n cutuno - yr un yma'n syml ac yn ddisgrifiadol ond pan fydd na betha fel the Super Duper Furry Top-Dogs Category ei adael o yn Saesneg fydda i - ella, fel mor aml, ei bod yn dibynnu ar wahanol amgylchiada a chyd-destun bob tro. Anna 2013/7/9 Dafydd Timothy <[log in to unmask]> > Be wnewch chi o bethau fel: > > The Ted Hughes Prize for New Work in Poetry > > ac yn yr un erthygl ... > > Council for the Protection of Rural England > > Mae'n amlwg fod yn rhaid un ai cyfieithu'r ddau ... neu gadael y ddau, ac > mae rhywbeth yn taro'n chwithig i mi pa bynnag ffordd yr āf i !! > > Diolch am unrhyw fewnbwn ystyriol, > > Dafydd >