Print

Print


Dyna be on i'n ei feddwl - sawl gwaith dwi di bod yn hela sgwarnogod oherwydd gwalla cwsmeriaid mewn meysydd dwi ddim yn gyfarwydd a nhw!

Anna


2013/7/8 Dafydd Timothy <[log in to unmask]>
Wel diolch - nid fy nghamgym i... ond pwy bynnag sgwennodd y Saesneg!
 'Llwdn' felly.


On 08/07/2013 10:18, anna gruffydd wrote:
Onid wether ddylia fo fod? I'w gael yn GyrA dan y sillafiad cywir!

Anna


2013/7/8 Dafydd Timothy <[log in to unmask]>
Bore da bawb!

Gydag ymddiheuriadau i'm cyd-ddynion, nenwedig os 'da chi newydd gael eich brecwast, ond ...

be 'di 'weather-lambs' yn Gymraeg, sef:

oen gwryw wedi'i 'sbaddu

Diolch,

Dafydd