Print

Print


Ie, mae pobol weithie fel tasen nhw'n cymryd TermCymru fel Gair Duw neu rywbeth! Mae o'n handi iawn gyda thermau a phynciau'r Cynulliad, ond dyna'r cwbl!  Nid cenedl o robotiaid yden ni - defnyddiwch eich Cymraeg naturiol eich hun!

Geraint
  ----- Original Message ----- 
  From: Ann Corket 
  To: [log in to unmask] 
  Sent: Wednesday, July 31, 2013 12:11 AM
  Subject: Re: acronymau


  "gweithwyr [proffesiynol] ym maes/meysydd iechyd a gofal cymdeithasol"?  Onid yw "professionals" hefyd, yr un fath a "buses" yn air, yn hytrach nag yn derm?

  Ann

  On 30/07/2013 16:54, Claire Richards wrote:

    Fe ddiflannodd "proffesiynolion" o TermCymru dro'n ôl.



    Mae defnyddio "gweithiwr/gweithwyr proffesiynol" yn lletchwith iawn weithiau - "gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol".  



    Er, taswn i'n cael fy ffordd, byddwn i'n gwahardd y gair "professionals" yn y rhan fwyaf o achosion yn Saesneg, ta beth.



    Claire



    From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd
    Sent: 30 July 2013 16:31
    To: [log in to unmask]
    Subject: Re: acronymau



    Dwi wedi defnyddio proffesiynolion yn y gorffennol, ond heb weld y gair ers tro byd bellach.

    Anna



    2013/7/30 Ann Corket <[log in to unmask]>

    Ydych chi - a phobl eraill - yn defnyddio "proffesiynolion" erbyn hyn, Tim?  'Rwyf bob amser wedi'i osgoi drwy ddefnyddio rhywbeth fel "gweithwyr proffesiynol".
    Ann

    On 10/07/2013 09:19, Saunders, Tim wrote:

      Byddaf yn ceisio osgoi acronymau os oes modd. Yn un peth, nid ydynt bob amser yn gwbl ddealladwy hyd yn oed i broffesiynolion. Gallant fod yn amwys (yn enwedig mewn cymdeithas ddwyieithog), ac nid ydynt o reidrwydd yn rhwydd I'w hynghanu.



      Yn iach,



      Tim




--------------------------------------------------------------------------

      From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Gareth Evans Jones
      Sent: 09 July 2013 17:43
      To: [log in to unmask]
      Subject: acronymau



      Dwi wrthi'n cyfieithu darn sy'n cyfeirio at rai o raglenni a strategaethau Llywodraeth Cymru.



      Cyfeirir at yr acronymau SEP (Strategic Equality Plant) ac EI (Equality and Inclusion) yn rheolaidd yn y ddogfen. 



      Os ydw i wedi deall arddulliadur Gwasanaeth Cyfieithu'r Cynulliad yn iawn, fe ddylid cynnig y cyfieithiad llawn y tro cyntaf â'r acronym mewn cronfachau yn dilyn y term llawn - yna gellir defnyddio'r acronym trwy weddill y ddogfen. 



      Ydy hi'n dderbynion felly i mi ddefnyddio CCS a CC yn lle SEP ac EI? Dwi ddim yn meddwl bod yr acronymau Saesneg wedi ennill eu plwy eto. 



      This transmission is intended for the named addressee(s) only and may contain sensitive or protectively marked material up to RESTRICTED and should be handled accordingly. Unless you are the named addressee (or authorised to receive it for the addressee) you may not copy or use it, or disclose it to anyone else. If you have received this transmission in error please notify the sender immediately. All traffic including GCSx may be subject to recording and/or monitoring in accordance with relevant legislation

      For the full disclaimer please access http://www.rctcbc.gov.uk/disclaimer



      Mae'r neges ar gyfer y person(au) a enwyd yn unig a gall gynnwys deunydd sensitif neu ddeunydd sy wedi'i farcio hyd at 'CYFYNGEDIG' a dylid ei thrin yn unol a hynny. Os nad chi yw'r person a enwyd (neu os nad oes gyda chi'r awdurdod i'w derbyn ar ran y person a enwyd) chewch chi ddim ei chopio neu'i defnyddio, neu'i datgelu i berson arall. Os ydych wedi derbyn y neges ar gam a wnewch roi gwybod i'r sawl sy wedi anfon y neges ar unwaith. Mae modd cofnodi a/neu fonitro holl negeseuon GCSX yn unol a'r ddeddfwriaeth berthnasol.  

      I weld yr ymwadiad llawn ewch i http://www.rctcbc.gov.uk/ymwadiad









  No virus found in this message.
  Checked by AVG - www.avg.com
  Version: 2012.0.2242 / Virus Database: 3209/6037 - Release Date: 07/30/13