Dwi ddim yn gwbod wir pwy ddechreuodd y busnes "bysiau" 'ma - newydd Gwglo a gweld bod 25,000 enghraifft o "bysiau", 10,000 "bysys" a 5,000 "bysus".
 
Mae hyd yn oed Cyngor Gwynedd yn deud "bysiau" rwan - "bysus" oedd hi'n ddieithriad pan oeddwn i'n gyfieithydd yno erstalwm.
 
Fel y deudaist ti, dwi erioed wedi clywed neb yn DEUD "bysiau".
 
G
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">anna gruffydd
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Tuesday, July 30, 2013 7:35 PM
Subject: Re: acronymau

Wel, mae di'i wneud a'i anfon rwan (ar ol i mi fynd drwy'r holl beth yn newid bysus yn bysiau, yn groes i'r graen. Jyst meddwl on i, os na bysiau a ddefnyddir ym mhob man yn y ddeddfwriaeth (er bod y ddau air yn gwbl ddealladwy), y dylwn i ddefnyddio'r un gair., go daria, rwan dwi'n styc efo bysiau yntydw, bob tro y bydda i'n ailwampio'r ddogfen.

A

2013/7/30 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>
Dwi ddim yn meddwl - mae angen cysondeb efo termau ac enwau swyddogol, oes, ond gair cyffredin ydi bysus a wela i ddim y gellir cael cysondeb mwy nag y gellir cael cysondeb rhwng un ddogfen yn deud cacen a dogfen arall yn deud teisen. Cyn belled nad oes yna ddim amwysedd, be di'r broblem?
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]" target=_blank>anna gruffydd
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]" target=_blank>[log in to unmask]
Sent: Tuesday, July 30, 2013 6:31 PM
Subject: Re: acronymau

Ron i wedi cyfieithu'r ddogfen gyfa cyn i mi weld mai bysiau oedd yn Term Cymru (dwi'm yn cofio rwan am be on i'n chwilio, nid y gair ei hun mae'n sicr achos, fel chdi, faswn i rioed wedi meddwl am chwilio amdano - bysus a fu, a bysys sydd a bysus a fydd i mi. Ond os ydi'r gair bysiau yn ymddangos mewn deddwriaetha, strategaetha etc etc rhaid i mi ddefnyddio'r sglyfath decini?

A

2013/7/30 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>
Os nad ydi o'n statws 1 (a statws 4 sydd i 'bysiau' o be wela i) dwi ddim yn meddwl bod rhaid ei ddilyn yn slafaidd.
 
Faswn i byth wedi meddwl edrych yn Term Cymru am air fel bysus beth bynnag (ac ie, 'bysus' efo u ydw i'n ddefnyddio, er mai 'y' sydd yn 'nyrsys'! rhywbeth i wneud efo agosrwydd y ddwy 'y' ella?)
 
Geraint 
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]" target=_blank>anna gruffydd
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]" target=_blank>[log in to unmask]
Sent: Tuesday, July 30, 2013 5:24 PM
Subject: Re: acronymau

Nid TermCymru ydi stori gyfan, naci, ond os di rhywun yn gwneud rhywbeth i'r Llywodraeth neu ran ohoni, siawns nad oes rhaid glynu at eu penderfyniada nhw (a dilyn pob newid sy'n digwydd ynddyn nhw) - e.e. mae 'bysiau' i mi yn air cwbl ddiarth - bysys glywais i erioed, a chlywais i rioed mo'r un enaid byw yn deud 'bysiau', ond os di TermCymru yn mynnu deud bysiau, siawns nad oes rhai i mi blygu i'r drefn os dwi'n gwneud gwaith i Sewta?

A

2013/7/30 Saunders, Tim <[log in to unmask]>

Dueddol o gytuno ar y cyfan.

Da o beth yw ein hatgoffa o dro i dro nad TermCymru yw’r stori gyfan. Gwaetha’r modd y mae ‘proffesiynolion’ yn lercian yn y llwyni o hyd.

Yn iach,

T

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Claire Richards
Sent: 30 July 2013 16:54
To: [log in to unmask]
Subject: Re: acronymau

Fe ddiflannodd “proffesiynolion” o TermCymru dro’n ôl.

Mae defnyddio “gweithiwr/gweithwyr proffesiynol” yn lletchwith iawn weithiau – “gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol”. 

Er, taswn i’n cael fy ffordd, byddwn i’n gwahardd y gair “professionals” yn y rhan fwyaf o achosion yn Saesneg, ta beth.

Claire

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd
Sent: 30 July 2013 16:31
To: [log in to unmask]
Subject: Re: acronymau

Dwi wedi defnyddio proffesiynolion yn y gorffennol, ond heb weld y gair ers tro byd bellach.

Anna

2013/7/30 Ann Corket <[log in to unmask]>

Ydych chi - a phobl eraill - yn defnyddio "proffesiynolion" erbyn hyn, Tim?  'Rwyf bob amser wedi'i osgoi drwy ddefnyddio rhywbeth fel "gweithwyr proffesiynol".
Ann

On 10/07/2013 09:19, Saunders, Tim wrote:

Byddaf yn ceisio osgoi acronymau os oes modd. Yn un peth, nid ydynt bob amser yn gwbl ddealladwy hyd yn oed i broffesiynolion. Gallant fod yn amwys (yn enwedig mewn cymdeithas ddwyieithog), ac nid ydynt o reidrwydd yn rhwydd I’w hynghanu.

Yn iach,

Tim

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Gareth Evans Jones
Sent: 09 July 2013 17:43
To: [log in to unmask]
Subject: acronymau

Dwi wrthi'n cyfieithu darn sy'n cyfeirio at rai o raglenni a strategaethau Llywodraeth Cymru.

Cyfeirir at yr acronymau SEP (Strategic Equality Plant) ac EI (Equality and Inclusion) yn rheolaidd yn y ddogfen.

Os ydw i wedi deall arddulliadur Gwasanaeth Cyfieithu'r Cynulliad yn iawn, fe ddylid cynnig y cyfieithiad llawn y tro cyntaf â'r acronym mewn cronfachau yn dilyn y term llawn - yna gellir defnyddio'r acronym trwy weddill y ddogfen.

Ydy hi'n dderbynion felly i mi ddefnyddio CCS a CC yn lle SEP ac EI? Dwi ddim yn meddwl bod yr acronymau Saesneg wedi ennill eu plwy eto.

This transmission is intended for the named addressee(s) only and may contain sensitive or protectively marked material up to RESTRICTED and should be handled accordingly. Unless you are the named addressee (or authorised to receive it for the addressee) you may not copy or use it, or disclose it to anyone else. If you have received this transmission in error please notify the sender immediately. All traffic including GCSx may be subject to recording and/or monitoring in accordance with relevant legislation

For the full disclaimer please access http://www.rctcbc.gov.uk/disclaimer

Mae'r neges ar gyfer y person(au) a enwyd yn unig a gall gynnwys deunydd sensitif neu ddeunydd sy wedi'i farcio hyd at 'CYFYNGEDIG' a dylid ei thrin yn unol a hynny. Os nad chi yw'r person a enwyd (neu os nad oes gyda chi'r awdurdod i'w derbyn ar ran y person a enwyd) chewch chi ddim ei chopio neu'i defnyddio, neu'i datgelu i berson arall. Os ydych wedi derbyn y neges ar gam a wnewch roi gwybod i'r sawl sy wedi anfon y neges ar unwaith. Mae modd cofnodi a/neu fonitro holl negeseuon GCSX yn unol a'r ddeddfwriaeth berthnasol. 

I weld yr ymwadiad llawn ewch i http://www.rctcbc.gov.uk/ymwadiad

No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2012.0.2242 / Virus Database: 3209/6031 - Release Date: 07/29/13

No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2012.0.2242 / Virus Database: 3209/6036 - Release Date: 07/30/13

No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2012.0.2242 / Virus Database: 3209/6036 - Release Date: 07/30/13