Ron i wedi cyfieithu'r ddogfen gyfa cyn i mi weld mai bysiau oedd yn Term Cymru (dwi'm yn cofio rwan am be on i'n chwilio, nid y gair ei hun mae'n sicr achos, fel chdi, faswn i rioed wedi meddwl am chwilio amdano - bysus a fu, a bysys sydd a bysus a fydd i mi. Ond os ydi'r gair bysiau yn ymddangos mewn deddwriaetha, strategaetha etc etc rhaid i mi ddefnyddio'r sglyfath decini? A 2013/7/30 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]> > ** > Os nad ydi o'n statws 1 (a statws 4 sydd i 'bysiau' o be wela i) dwi ddim > yn meddwl bod rhaid ei ddilyn yn slafaidd. > > Faswn i byth wedi meddwl edrych yn Term Cymru am air fel bysus beth bynnag > (ac ie, 'bysus' efo u ydw i'n ddefnyddio, er mai 'y' sydd yn 'nyrsys'! > rhywbeth i wneud efo agosrwydd y ddwy 'y' ella?) > > Geraint > > ----- Original Message ----- > *From:* anna gruffydd <[log in to unmask]> > *To:* [log in to unmask] > *Sent:* Tuesday, July 30, 2013 5:24 PM > *Subject:* Re: acronymau > > Nid TermCymru ydi stori gyfan, naci, ond os di rhywun yn gwneud rhywbeth > i'r Llywodraeth neu ran ohoni, siawns nad oes rhaid glynu at eu > penderfyniada nhw (a dilyn pob newid sy'n digwydd ynddyn nhw) - e.e. mae > 'bysiau' i mi yn air cwbl ddiarth - bysys glywais i erioed, a chlywais i > rioed mo'r un enaid byw yn deud 'bysiau', ond os di TermCymru yn mynnu deud > bysiau, siawns nad oes rhai i mi blygu i'r drefn os dwi'n gwneud gwaith i > Sewta? > > A > > > 2013/7/30 Saunders, Tim <[log in to unmask]> > >> ** >> >> Dueddol o gytuno ar y cyfan.**** >> >> Da o beth yw ein hatgoffa o dro i dro nad TermCymru yw’r stori gyfan. >> Gwaetha’r modd y mae ‘proffesiynolion’ yn lercian yn y llwyni o hyd.**** >> >> **** >> >> Yn iach,**** >> >> **** >> >> T**** >> >> **** >> ------------------------------ >> >> *From:* **Discussion of Welsh language technical terminology and >> vocabulary** [mailto:[log in to unmask]] *On Behalf Of *Claire >> Richards >> *Sent:* 30 July 2013 16:54 >> *To:* [log in to unmask] >> *Subject:* Re: acronymau**** >> >> **** >> >> Fe ddiflannodd “proffesiynolion” o TermCymru dro’n ôl.**** >> >> **** >> >> Mae defnyddio “gweithiwr/gweithwyr proffesiynol” yn lletchwith iawn >> weithiau – “gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol”. **** >> >> **** >> >> Er, taswn i’n cael fy ffordd, byddwn i’n gwahardd y gair “professionals” >> yn y rhan fwyaf o achosion yn Saesneg, ta beth.**** >> >> **** >> >> Claire**** >> >> **** >> >> *From:* **Discussion of Welsh language technical terminology and >> vocabulary** [mailto:[log in to unmask]] *On Behalf Of *anna >> gruffydd >> *Sent:* 30 July 2013 16:31 >> *To:* [log in to unmask] >> *Subject:* Re: acronymau**** >> >> **** >> >> Dwi wedi defnyddio proffesiynolion yn y gorffennol, ond heb weld y gair >> ers tro byd bellach.**** >> >> Anna**** >> >> **** >> >> 2013/7/30 Ann Corket <[log in to unmask]>**** >> >> Ydych chi - a phobl eraill - yn defnyddio "proffesiynolion" erbyn hyn, >> Tim? 'Rwyf bob amser wedi'i osgoi drwy ddefnyddio rhywbeth fel "gweithwyr >> proffesiynol". >> Ann**** >> >> On 10/07/2013 09:19, **Saunders, Tim** wrote:**** >> >> Byddaf yn ceisio osgoi acronymau os oes modd. Yn un peth, nid ydynt bob >> amser yn gwbl ddealladwy hyd yn oed i broffesiynolion. Gallant fod yn amwys >> (yn enwedig mewn cymdeithas ddwyieithog), ac nid ydynt o reidrwydd yn >> rhwydd I’w hynghanu.**** >> >> **** >> >> Yn iach,**** >> >> **** >> >> Tim**** >> >> **** >> ------------------------------ >> >> *From:* **Discussion of Welsh language technical terminology and >> vocabulary** [mailto:[log in to unmask]<[log in to unmask]>] >> *On Behalf Of *Gareth Evans Jones >> *Sent:* 09 July 2013 17:43 >> *To:* [log in to unmask] >> *Subject:* acronymau**** >> >> **** >> >> Dwi wrthi'n cyfieithu darn sy'n cyfeirio at rai o raglenni a >> strategaethau Llywodraeth Cymru.**** >> >> **** >> >> Cyfeirir at yr acronymau SEP (Strategic Equality Plant) ac EI (Equality >> and Inclusion) yn rheolaidd yn y ddogfen. **** >> >> **** >> >> Os ydw i wedi deall arddulliadur Gwasanaeth Cyfieithu'r Cynulliad yn >> iawn, fe ddylid cynnig y cyfieithiad llawn y tro cyntaf â'r acronym mewn >> cronfachau yn dilyn y term llawn - yna gellir defnyddio'r acronym trwy >> weddill y ddogfen. **** >> >> **** >> >> Ydy hi'n dderbynion felly i mi ddefnyddio CCS a CC yn lle SEP ac EI? Dwi >> ddim yn meddwl bod yr acronymau Saesneg wedi ennill eu plwy eto. **** >> >> **** >> >> This transmission is intended for the named addressee(s) only and may >> contain sensitive or protectively marked material up to RESTRICTED and >> should be handled accordingly. Unless you are the named addressee (or >> authorised to receive it for the addressee) you may not copy or use it, or >> disclose it to anyone else. If you have received this transmission in error >> please notify the sender immediately. All traffic including GCSx may be >> subject to recording and/or monitoring in accordance with relevant >> legislation**** >> >> For the full disclaimer please access http://www.rctcbc.gov.uk/disclaimer >> **** >> >> **** >> >> Mae'r neges ar gyfer y person(au) a enwyd yn unig a gall gynnwys deunydd >> sensitif neu ddeunydd sy wedi'i farcio hyd at 'CYFYNGEDIG' a dylid ei thrin >> yn unol a hynny. Os nad chi yw'r person a enwyd (neu os nad oes gyda chi'r >> awdurdod i'w derbyn ar ran y person a enwyd) chewch chi ddim ei chopio >> neu'i defnyddio, neu'i datgelu i berson arall. Os ydych wedi derbyn y neges >> ar gam a wnewch roi gwybod i'r sawl sy wedi anfon y neges ar unwaith. Mae >> modd cofnodi a/neu fonitro holl negeseuon GCSX yn unol a'r ddeddfwriaeth >> berthnasol. **** >> >> I weld yr ymwadiad llawn ewch i http://www.rctcbc.gov.uk/ymwadiad**** >> >> **** >> >> **** >> >> **** >> >> This transmission is intended for the named addressee(s) only and may >> contain sensitive or protectively marked material up to RESTRICTED and >> should be handled accordingly. Unless you are the named addressee (or >> authorised to receive it for the addressee) you may not copy or use it, or >> disclose it to anyone else. If you have received this transmission in error >> please notify the sender immediately. All traffic including GCSx may be >> subject to recording and/or monitoring in accordance with relevant >> legislation****** >> >> For the full disclaimer please access http://www.rctcbc.gov.uk/disclaimer >> **** >> >> **** >> >> Mae'r neges ar gyfer y person(au) a enwyd yn unig a gall gynnwys deunydd >> sensitif neu ddeunydd sy wedi'i farcio hyd at 'CYFYNGEDIG' a dylid ei thrin >> yn unol a hynny. Os nad chi yw'r person a enwyd (neu os nad oes gyda chi'r >> awdurdod i'w derbyn ar ran y person a enwyd) chewch chi ddim ei chopio >> neu'i defnyddio, neu'i datgelu i berson arall. Os ydych wedi derbyn y neges >> ar gam a wnewch roi gwybod i'r sawl sy wedi anfon y neges ar unwaith. Mae >> modd cofnodi a/neu fonitro holl negeseuon GCSX yn unol a'r ddeddfwriaeth >> berthnasol. >> >> I weld yr ymwadiad llawn ewch i http://www.rctcbc.gov.uk/ymwadiad**** >> >> > No virus found in this message. > Checked by AVG - www.avg.com > Version: 2012.0.2242 / Virus Database: 3209/6031 - Release Date: 07/29/13 > >