Print

Print


na, rhagymadrodd oedd hwnna - y cwestiwn oedd sut mae dweud "Musical work = Any work consisting of music" ?
  ----- Original Message ----- 
  From: Dafydd Timothy 
  To: [log in to unmask] 
  Sent: Tuesday, July 23, 2013 3:04 PM
  Subject: Re: consist


  Rhaglen o dair drama ...?


  On 23/07/2013 14:43, anna gruffydd wrote:

    Cytuno, ond erioed wedi llwyddo i ddod o hyd i ateb boddhaol- heblaw aralleirio - tair dram sydd yn y rhaglen, er enghraifft. O ran yr enghraifft dan sylw - unrhyw beth sy'n waith cerddorol?


    Anna




    2013/7/23 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>

      Mae'r Termiadur a GyA yn rhoi "cynnwys" am "consist", gyda'r enghraifft ganlynol yn y Geiriadur -

      "The programme consists of three plays" - "Mae'r rhaglen yn cynnwys tair drama"

      Ond dydi'r ddau osodiad ddim yr un peth - Tair drama *ydi'r* rhaglen. Gallai'r cyfeiriad Cymraeg uchod gyfeirio at raglen o ddigwyddiadau amrywiol, a thair drama yn eu plith.

      Felly sut mae deud "Any work consisting of music"? Diffiniad ydio o'r term "gwaith cerddorol". Mae llawer o fathau eraill o weithiau'n cynnwys cerddoriaeth wrth reswm (dramâu ac ati)




  No virus found in this message.
  Checked by AVG - www.avg.com
  Version: 2012.0.2242 / Virus Database: 3204/6012 - Release Date: 07/22/13