Campus yn 'y marn i yw'r arwyddon ffordd ar yr heol i Benarth"

 

"Croeso i dref

Penarth"

 

(Efallai mod i wedi sôn o'r blaen am y rhain, ond mae'n braf cael canmol felly dim ots os ydw i'n ailadrodd.)

 

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd
Sent: 22 Gorffennaf 2013 18:38
To: [log in to unmask]
Subject: Re: leading to - treiglad?

 

Dwi wedi rhyw obeithio hefyd bod defnyddio'r colon yn golygu na does dim rhaid treiglo - os mai cyfeiriad ydi rhywbeth, gwirion treiglo, ne fasa fo'm yn cael hyd i'w ffordd yno

Anna

 

2013/7/22 Sian Roberts <[log in to unmask]>

Meddwl ei bod hi'n bwysig defnyddio ffurf gysefin yr enw neu mae peryg i bobl ddechrau meddwl mai Lys Derwen yw enw'r lle.

Dw i wedi defnyddio'r colon cyn hyn ond dwi'm yn siwr a oes angen os ydi'r ffont yn ddigon gwahanol.

Er, mae rhyw bedant yn siwr o fynd i styrbans!

 

Hwyl

 

Siân

 

 

 

On 2013 Gorff 22, at 3:47 PM, Gorwel Roberts wrote:



O ran diddordeb beth fyddai aelodau’r Cylch yn ei wneud efo rhywbeth fel hyn?

 

HENGELL UCHAF

Leading to

LLYS DERWEN

 

Fel isod efo treiglad -

HENGELL UCHAF

Yn arwain at

LYS DERWEN

 

Fel isod efo colon ond heb dreiglad -

HENGELL UCHAF

Yn arwain at:

LLYS DERWEN

 

Oes ffordd arall well o unioni’r broblem?

 

diolch

Gorwel

 


--

Ymwadiad:

Er y cymerir pob gofal posib i sicrhau cywirdeb unrhyw wybodaeth a chyngor a roddir yn yr ohebiaeth hon, ni dderbynnir atebolrwydd am unrhyw golledion a all godi o unrhyw gamgymeriadau sy'n gynwysedig ac fe'ch atgoffir o'r angen i chi ofyn am gyngor proffesiynol eich hun.

Bwriedir y neges ebost hon, ac unrhyw atodiadau iddi, at sylw'r person(au) y'i danfonwyd atynt yn unig. Os nad chi yw'r derbynnydd y cyfeiriwyd y neges hon ato ef neu hi, neu'r person sydd gyfrifol am drosglwyddo'r neges hon iddo ef neu hi, mi ddylech hysbysu'r anfonwr ar eich union. Oni bai mai chi yw'r person neu gynrychiolydd y person y cyfeiriwyd y neges hon at ef neu hi nid ydych wedi eich awdurdodi i, ac ni ddylech chi, ddarllen, copio, dosbarthu, defnyddio na chadw'r neges hon nac unrhyw gyfran ohoni.

O dan y Ddeddf Amddiffyn Data 1998 a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 gellir datgelu cynnwys y negest ebost hon.

Disclaimer:

While reasonable care is taken to ensure the correctness of any information and advice given in this correspondence no liability is accepted for losses arising from any errors contained in it and you are reminded of the need to obtain your own professional advice.

The information in this email and any attachments is intended solely for the attention and use of the named addressee(s). If you are not the intended recipient, or person responsible for delivering this information to the intended recipient, please notify the sender immediately. Unless you are the intended recipient or his/her representative you are not authorised to, and must not, read, copy, distribute, use or retain this message or any part of it.

Under the Data Protection Act 1998 and the Freedom of Information Act 2000 the contents of this email may be disclosed.